Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn cabanau a chyfleusterau newydd ym Mharc Pennant

Will-Jones
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Marchnata
Pennant Park

Mae gwaith ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym Mharc Gwyliau Pennant ger Treffynnon wedi dechrau gydag adeiladu 55 porthdy newydd a chyfleusterau wedi’u huwchraddio yn barod ar gyfer tymor 2024.

Wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad saith ffigur sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru, bydd Wayfind Escapes yn uwchraddio’r parc 112 erw ar ôl cwblhau’r gwaith o brynu Clwb Golff a Pharc Gwyliau Parc Pennant ym mis Hydref 2023.

Gyda golygfeydd dros Aber Afon Dyfrdwy i Benrhyn Cilgwri, ar hyn o bryd mae gan Barc Gwyliau Pennant gwrs golff 18 twll, 18 porthdy preifat, bar a bwyty ar y safle. Mae 31 o sylfeini eraill yn barod ar gyfer y fflyd newydd o borthdai moethus gyda thybiau poeth a fydd ar gael i'w llogi neu eu prynu. Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu yn cael ei ddefnyddio i ran ariannu’r fflyd newydd hwn o borthdai dwy a thair ystafell wely ynghyd â gwelliannau i gyfleusterau’r safle gan gynnwys gwaith adnewyddu sylweddol ar y bar a’r bwyty, buddsoddiad yn y cwrs golff a maes chwarae newydd i blant. 

David Eccles yw Prif Weithredwr Wayfind Escapes. Meddai: “Mae galw mawr am borthdai o safon uchel yng Ngogledd Cymru ac o’r diwrnod cyntaf, gwelsom y potensial sydd gan Pennant i ddod yn gyrchfan pum seren. Mae'r cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu bod gennym ni'r cyfalaf i fuddsoddi yn y parc a gosod y safon ar gyfer porthdai moethus a thai haf yn yr ardal hon tra hefyd yn creu swyddi i bobl leol. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu Pennant yn gyrchfan wyliau a chwrs golff rhagorol yng Ngogledd Cymru dros y pum mlynedd nesaf.”

Mae Will Jones a Chris Hayward yn Swyddogion Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Dywedon nhw: “ Mae Pennant ar fin dod yn un o drysorau mwyaf Gogledd Cymru fel cyrchfan wyliau sy’n denu ymwelwyr o bob rhan o’r DU. Wedi'i leoli mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, mae hwn yn barc gwyliau sefydledig gyda photensial mawr sydd bellach yn nwylo galluog iawn tîm rheoli rhagorol sydd â hanes cryf yn y sector parciau gwyliau. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddynt fuddsoddi yn nyfodol y parc er budd ymwelwyr ac economi a chymuned leol Treffynnon.”

Daeth y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru. Wedi’i hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae’r gronfa £50 miliwn yn cynnig benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig, sy’n sefyll allan, sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gall prosiectau gynnwys cynnyrch arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr sy’n nodweddiadol Gymreig, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, lleoedd anarferol i aros ac atyniadau blaenllaw.