Buddsoddiad o £180,000 ar gyfer Drone Evolution yn fuddsoddiad cyntaf o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
drone evolution

Bydd cronfa ddiweddaraf Banc Datblygu Cymru, Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, yn darparu ei £90,000 o arian cyfatebol cyntaf i syndicâd o bum angel busnes sy'n buddsoddi yn Drone Evolution.

Y prif fuddsoddwr, Andrew Diplock, yw cyn-Reolwr Gyfarwyddwr UES Energy, cwmni a ffurfiwyd yng Nghaerffili, a dyfodd y cwmni cyn ymadawiad llwyddiannus erbyn diwedd 2015. Dim ond mewn busnesau wedi'u gwreiddio yng Nghymru y mae Andrew yn buddsoddi ynddynt ac mae hefyd yn aelod o Dasglu Cymoedd Llywodraeth Cymru yn ogystal â bod yn Llywodraethwr yng Ngholeg y Cymoedd

Y buddsoddiad ar y cyd o £180,000 yw'r gyfran gyntaf o fuddsoddiad posibl o £270,000 a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer drôn ac i ddatblygu adeiladau'r cwmni a fydd hefyd yn gweithredu fel cyfleuster hyfforddi o'r math diweddaraf yn y sector.

Mae Drone Evolution yn gwmni gwasanaethau dronau masnachol sy'n gobeithio newid y ffordd y mae busnesau a sefydliadau'n defnyddio dronau a chynyddu diogelwch y cyhoedd. Sefydlwyd y cwmni yn gynharach eleni a daeth yn weithredol ar ddechrau mis Tachwedd.

Yn y lle cyntaf, bydd gan y cwmni fflyd o hyd at bum drôn manyleb uchel a chyda'r gefnogaeth ariannol, maent yn disgwyl recriwtio hyd at 12-15 o staff dros y tair blynedd nesaf

Dim ond am tua 20 munud y gall y rhan fwyaf o ddronau masnachol hedfan cyn i'r batri ddod i ben a bod yn rhaid eu tynnu i lawr, sydd ddim fel arfer yn ddigon hir ar gyfer dibenion diogelwch mewn digwyddiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae Drone Evolution yn bwriadu cyflenwi dronau arbenigol wedi'u teddro a all aros yn yr awyr am lawer mwy na dronau safonol oherwydd gallant gael pŵer trwy gebl.

Bydd hyn yn golygu y gall cleientiaid gael llawer mwy o ddata dros gyfnod hwy oddi wrthynt, a allai hefyd fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, wrth ddarparu gwybodaeth monitro traffig ar ddatblygiad adeiladu tai.

Bydd y cwmni, sy'n seiliedig yng Nghaerffili, a gynghorwyd gan Siôn Tudur yn Loosemores Solicitors yn ystod y broses o drafod y fargen, hefyd yn datblygu ei gynhyrchion dron ei hun ac yn darparu hyfforddiant i ddefnyddwyr.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Drone Evolution, Clayton Earney: "Mae hyn yn dangos ffydd gan fuddsoddwyr fod hwn yn fusnes sy'n werth buddsoddi ynddo, ac maen nhw'n meddwl ei fod yn gyfle cyffrous mewn sector sy'n tyfu'n gyflym." Yn ymuno â Clayton yn y busnes mae ei gyn-gydweithiwr John Young a'r entrepreneur Toby Townrow.

Lansiwyd Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru o £8m ym mis Ebrill ac mae'n ceisio, dros y pedair blynedd nesaf, i ymestyn gweithgarwch buddsoddi angylion trwy gyfrwng syndicadau buddsoddi uwch ar hyd a lled Cymru

Dywedodd y buddsoddwr arweiniol, Andrew Diplock: "Yr hyn yr wyf yn edrych amdano mewn unrhyw fusnes yw'r unigolion cywir gyda'r profiad iawn, model busnes gwych ac uchelgais twf ar gyfer ymadael yn y pen draw. Roeddd Drone Evolution yn ticio'r blychau hyn i gyd ar gyfer y buddsoddiad hwn."

Ymunodd Andrew â'r buddsoddwyr angel profiadol Gruff Dodd, Phil Buck ac Ashley Cooper wrth gefnogi'r busnes hwn.

Yn wahanol i gronfeydd eraill y banc datblygu, mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn cael ei arwain gan y buddsoddwyr gyda'r banc yn darparu arian cyfatebol hyd at uchafswm o £250,000 fesul prosiect.

Mae Andrew Diplock yn un o ddim ond 4 o fuddsoddwr arweiniol a gymeradwywyd ar hyn o bryd i weithio gyda'r gronfa. Mae'r gronfa, a lansiwyd gan Angylion Buddsoddi Cymru (ABC), sef rhwydwaith blaenllaw o angylion buddsoddi yng Nghymru, yn caniatáu i'r banc datblygu harneisio doniau a phrofiad rhai o brif fuddsoddwyr ac entrepreneuriaid Cymru

Meddai Andrew: "Mae'r gronfa yn rhoi cyfle i'r gymuned angylion i yrru eu detholiad eu hunain o gyfleoedd buddsoddi. Yn holl bwysig, mae'n weithgaredd sy'n cael ei arwain gan yr angylion sy'n hyfyw ac yn arloesol, ac fe ddylid canmol Banc Datblygu Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru am alluogi hyn i ddigwydd yng Nghymru i helpu entrepreneuriaid Cymreig."