Buddsoddiad o £230,000 mewn gweithgynhyrchu digidol i Dectek

Steve-Elias
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
dectek

Mae arbenigwyr technoleg resin ac argraffu DecTek wedi cwblhau buddsoddiad o £230,000 mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu digidol newydd i ddiwallu galw cynyddol byd-eang gan gwsmeriaid.

Sefydlodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Mike Beese DecTek yn 2002 o’i fwrdd cegin. Mae bellach wedi tyfu’r busnes yn gwmni sy’n ennill gwobrau, sy’n arloesi gweithgynhyrchu digidol bathodynnau resin, labeli a bathodynnau enw.

Wedi ei leoli ar Stad Ddiwydiannol Trefforest, mae’r cwmni nawr yn cyflogi 30 o bobl gan gynnwys tri prentis. Disgwylir i drosiant gyrraedd £4.5 miliwn erbyn 2021 gydag 20 o swyddi newydd yn cael eu creu.

Defnyddiwyd benthyciad o £75,000 gan Fanc Datblygu Cymru i rannol ariannu seilwaith TG a chyfarpar argraffu newydd, gan alluogi arferion gwaith symlach a gwell rheolaeth dros stoc. Mae system archebu arlein newydd ar gyfer gwsmeriaid hefyd wedi ei lansio.

Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Mike Beese: “Sefydlais DecTek yn 2002 gyda dim byd mwy na gweledigaeth o gael fy musnes fy hun yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu a’i wybod orau. O’n dyddiau cynnar yn cynhyrchu labeli tlysau chwaraeon, rwyf wedi tyfu’r cwmni yn un o gynhyrchwyr blaenaf bathodynnau resin ansawdd uchel, labeli, sticeri a bathodynnau enw yn y DU, gan allforio ein cynnyrch yn fyd-eang.

“Darparodd benthyciad cychwynnol o £90,000 yn 2010 gan ragflaenydd y banc datblygu, Cyllid Cymru, y cyfalaf roedd ei angen arnom i ehangu ein marchnad gyda bathodynnau enw y gellid eu hail-ddefnyddio, cyn adleoli i gyfleustra gweithgynhyrchu mwy ar Stad Ddiwydiannol Trefforest yn 2012.  Mae tair rownd o gyllid pellach yn dod i fwy na £300,000 yn golygu ein bod wedi medru gyrru twf arwyddocaol gyda datblygiad marchnadoedd newydd. Rydym nawr yn cyflenwi manwerthwr cosmetigau gyda labeli lliw ar gyfer minlliw a lliwiau ewinedd, ac rydym hyd yn oed wedi datblygu ein system codio lliw unigryw ein hunain i’w hargraffu yn ddigidol. Arwyddion diogelwch a labeli diogelwch fydd ein ffocws nesaf.”

“Ni wnes i erioed feddwl yn ôl yn 2002 y byddai Google, Jaguar - Landrover, Bentley, NHS, SKY, Sony a Virgin ymhlith ein cwsmeriaid nawr. Mae wedi bod yn daith gyffrous gyda chymorth anhygoel gan Cyllid Cymru yn y dyddiau cynnar ac nawr Banc Datblygu Cymru gyda’r rownd ddiweddaraf hon o gyllid. Maent wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd ac mae eu cred nhw yn ein gweledigeth wedi ein helpu i gael effaith wirioneddol. Ni fedraf ddiolch digon iddynt am gredu ynof i.”

Ychwanegodd Steve Elias, Uwch Swyddog Gweithredol Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae gweledigaeth ac ymroddiad Mike i safonau arweiniol y diwydiant wedi cyflenwi twf cyson gyda gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Rydym bob amser yn awyddus i weithio gyda’n cwsmeriaid yn y tymor hir; mae mor braf gweld yr effaith y mae ein cyllid yn ei gael.”