Buddsoddiad o £500,000 i gyflawni cynlluniau ehangu ar gyfer Ocean Matters

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ocean Matters

Yn dilyn benthyciad sylweddol gan y Banc Datblygu Cymru, bydd cwmni o ogledd Cymru yn arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn i ffermwyr eogiaid tra'n cefnogi ymdrechion i gynnal gwell arferion cynaladwyedd.

Mae Ocean Matters, sydd wedi'i leoli ym Mhenmon, Ynys Môn, yn defnyddio datrysiad naturiol i ymladd â'r heriau bioddiogelwch parhaus sy'n gysylltiedig â'r parasitiaid. Mae'n bridio lwmpod, math o bysgod glanach sy'n bwydo oddi ar lau môr ac wrth wneud hynny, mae'n darparu amgylchedd tyfu glanach ar gyfer eogiaid sy'n cael eu ffermio.

Gyda chymorth benthyciad o £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r cwmni'n bwriadu dyblu eu cynhyrchiad o'r lwmpod pysgod presennol mewn ymdrech i ateb y galw cynyddol. Mae Ocean Matters, a ffurfiwyd yn 2015 a ddechreuodd fasnachu tuag at ddiwedd 2016, hefyd wedi sicrhau benthyciad pellach o £500,000 gan HSBC.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd a'r cyfarwyddwr John Callaghan: "Rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, ond bydd y cyfalaf buddsoddi ychwanegol yn ein galluogi ni i barhau i wella'r systemau presennol ond hefyd yn ein cefnogi i adeiladu ehangiad sy'n ein galluogi i fynd i'r afael ag anghenion cynyddol ein cwsmeriaid."

"Mae'r rownd ehangu nesaf, diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru, yn dod â ni at gam mas critigol lle byddwn yn mynd ati i gyflogi mwy o weithwyr a byddwn mewn sefyllfa llawer gwell i ateb y galw o du’r farchnad."

Mae problem llau môr yn un sydd wedi cyflymu ochr yn ochr â thwf y diwydiant ffermio eogiaid. Yn y DU, dechreuodd ffermio eogiaid ymsefydlu a llwyddo yn y 1970au a'r 1980au, ac mae canolbwynt hyn ar arfordir gorllewinol Yr Alban.

Mae'r dwysedd uchel o bysgod mewn corlannau ffermydd yn darparu amgylchedd llawer cyfoethocach ar gyfer parasitiaid na'r môr agored, ac wrth i'r llau allu gwrthsefyll y plaladdwyr a ddefnyddir yn fwy traddodiadol ddatblygu fwy fwy, mae'r cymhlethdodau o ymdrin â llau môr wedi cynyddu.

Meddai Werner Forster, Prif Weithredwr a Chyd-Sefydlydd Ocean Matters: "Dros gyfnod o amser mae'r dull hwn wedi dod yn llai a llai effeithiol gan fod y parasitiaid wedi esblygu fel eu bod yn gallu gwrthsefyll y plaladdwyr, ynghyd â phwysau o du defnyddwyr, yn ogystal â'r gwrthwynebiadau gan y rhai sy'n pryderu am effeithiau negyddol triniaethau o'r fath ar yr amgylchedd.”

Fel enghraifft o effaith niweidiol llau'r môr - Yn 2016 gostyngodd cyflenwad y byd o eogiaid ffermio bron i 10 y cant ac fe gododd prisiau cyfanwerthu bron i 50 y cant.

Ychwanegodd Mr Forster: "Pan fyddwch chi'n canolbwyntio ar arferion ffermio pysgod, byddwch chi'n cael problemau sydd a wnelo parasitiaid, dyma'r mater mwyaf o ran iechyd a bioddiogelwch y mae'r ffermwyr hyn yn ei wynebu ac mae'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i'r diwydiant o amgylch y byd. Nid dim ond cost y driniaeth yn unig ydyw, ond pan fydd pysgod yn marw neu pan fo angen eu cynaeafu'n gynnar - mae'r ffermwyr eog yn ysgwyddo'r holl gostau sy'n ofynnol i dyfu'r pysgod i'r pwynt hwnnw ond bydd hefyd colli arian refeniw aruthrol o achos pwysau cynaeafu.

Mynegodd John Callaghan ei ddiolchgarwch am y berthynas sydd wedi'i sefydlu gyda Banc Datblygu Cymru: "Maent wedi gwneud ymdrech gydwybodol iawn i ddeall y busnes, i ddod allan ac ymweld â'r eiddo, i siarad gyda'r gweithwyr a'r tîm. Dydw i heb weld y lefel o ddiwydrwydd dyladwy fel y maen nhw wedi ei berfformio, ac yn sicr roedd hyn o fudd i gwmni ifanc fel un ni. Roeddent yn gallu gweld y potensial."

Nod y cwmni wrth iddo barhau i ehangu yw darparu ateb naturiol i'r broblem llau môr ac mae hynny eisoes yn gwneud gwahaniaeth, er budd ffermwyr pysgod, defnyddwyr a'r amgylchedd.

"Mae defnyddwyr yn ei hoffi oherwydd nad yw'r pysgod yn cael eu trin â meddyginiaethau diangen a thriniaethau cemegol, tra bo’n well gan yr amgylcheddwyr batrwm gweithredu fwy naturiol tuag at les anifeiliaid. Mae'n rhywbeth mae pawb wirioneddol wedi bod yn gefnogol iddo ac mae pawb ar eu hennill," meddai.

Meddai Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru:"Ar ôl cyfarfod â'r tîm ac ymweld â'r safle ym Mhenmon, roeddem yn gwybod bod hwn yn gyfle cyffrous i'r Banc Datblygu Cymru gefnogi dyheadau twf Ocean Matters. Fe wnaeth ymroddiad y cwmni tuag at frwydro yn erbyn y pla llau môr hanesyddol a'u gweledigaeth ar gyfer y busnes greu argraff ffafriol iawn arnom ni."

"Mae ein cyd-fuddsoddiad gyda HSBC yn rhoi sicrwydd i'r cwmni allu cyrraedd cynnyrch mas critigol yn gyflym fel y gallant gwrdd â'r galw cynyddol. Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi cenhadaeth y cwmni o fod yn arweinydd yn y diwydiant o ran datrysiad perthnasol i reoli llau môr yn gynaliadwy."