Buddsoddiad y Banc Datblygu yn helpu Vortex IoT i barhau i dyfu’n gyflym

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
vortex

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Vortex IoT.

Mae cwmni Rhyngrwyd o Bethau (RhoB) sy'n seiliedig yn Abertawe wedi derbyn buddsoddiad chwe ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn helpu'r busnes i barhau â'u taflwybr twf rhyngwladol rhyfeddol.

Gyda ffocws diwydiannol, sy'n arbenigo mewn diwydiant trwm, isadeiledd clir a seilwaith rheilffyrdd, mae Vortex IoT yn adeiladu synwyryddion a rhwydweithiau ar gyfer amrywiaeth o amgylcheddau anodd lle mae'r amodau'n galed dros ben a'r cyflenwad pŵer yn gyfyngedig, ac mae angen DA (deallusrwydd artiffisial), neu pan fo  diogelwch data yn hanfodol.

Mae'r Rhyngrwyd o Bethau Diwydiannol (RhoBD) yn chwyldroi'r ffordd y mae nifer o ddiwydiannau'n gweithredu, gyda mwy a mwy o gynhyrchion yn cysylltu â'r rhyngrwyd, mae'n bosibl cael mynediad ar unwaith at wybodaeth a data a all wella gweithrediadau busnes yn sylweddol.

Mae atebion arloesol y cwmni eisoes wedi denu sylw nifer o frandiau byd-eang mawr, gan gynnwys: Tata Steel, Dell Technologies, Network Rail, BT a Hitachi.

Bydd buddsoddiad Banc Datblygu Cymru yn caniatáu i Vortex IoT ddilyn hynt ei gynlluniau twf uchelgeisiol sy'n cynnwys sicrhau nifer o gleientiaid proffil uchel, yn y DU a thramor, yn ogystal â chynyddu ei weithlu presennol o 15 i 30 erbyn diwedd 2019.

Mae Vortex IoT eisoes yn adeiladu enw da am ddod o hyd i atebion arloesol i ystod eang o broblemau a wynebir gan fusnesau, gan ddylunio cynhyrchion sy'n ôl-ffitio ac yn diwallu anghenion gwirioneddol fanwl gywir amrywiol ddiwydiannau.

Yn ogystal â chael ei Bencadlys a'i Labordy Prototeipio Cyflym yng Nghymru, maen nhw wedi agor swyddfa loeren yn Singapore yn ddiweddar, gan ehangu'r mannau maent yn eu cyrraedd i Gymdeithas Cenhedloedd Gwledydd De Ddwyrain Asia.

Meddai Adrian Sutton, rheolwr gyfarwyddwr Vortex IoT: "Mae natur ein busnes yn golygu y gallem fod wedi ei sefydlu yn unrhyw le yn y byd. Fodd bynnag, mae'r amgylchedd ariannu yng Nghymru yn hynod o gadarnhaol ac yn ffafriol i annog busnesau bach a chanolig yn y sector technoleg i ffynnu ac roedd hyn yn gymhelliad o ddifri i ni pan oeddem yn penderfynu ymhle y dylem leoli ein prif swyddfa.

"Bydd y buddsoddiad hwn gan Fanc Datblygu Cymru yn ein helpu i barhau i adeiladu ar ein twf cenedlaethol a rhyngwladol, gan godi ymwybyddiaeth o'r busnes a'n datrysiadau Rhyngrwyd o Bethau unigryw, arloesol."

Meddai Dr Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi, yn Nhîm Mentrau Technoleg Banc Datblygu Cymru: "Rydym wedi gweithio gyda dros 70 o fusnesau technoleg wedi'u lleoli yma yng Nghymru. Mae cynnig Vortex yn arloesol ac unigryw ac rwy'n hyderus y bydd y cwmni'n mynd ymlaen i greu cynhyrchion sy'n newid y ffordd y mae llawer o ddiwydiannau yn gweithredu gyda'r arian cyllido hwn."

Meddai Mike Fay, Pennaeth OEM & Partnerships (Ewrop), Dell Technologies: "Mae Vortex IoT yn fusnes RhoB ifanc, uchelgeisiol sy’n meddu ar ffocws, sy'n dylunio ac yn cyflwyno atebion arloesol sydd ag addewid marchnad sylweddol. Mae Dell yn hapus i fod yn gweithio ochr yn ochr â nhw wrth iddynt aeddfedu'r busnes."

Sefydlwyd Vortex IoT gan y rheolwr gyfarwyddwr Adrian Sutton, cyfarwyddwr arloesedd Behzad Heravi a chyfarwyddwr cyllid a chynhyrchion Nick Beckett. Mae'n cynnwys tîm medrus o beirianwyr sydd ag arbenigedd mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, Deallusrwydd Artiffisial (DA) a Dysgu Drwy Beiriannau.

Mae Vortex IoT yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar brosiect Ffatri'r Dyfodol, a gaiff ei ariannu'n rhannol gan Fargen Dinas Bae Abertawe, sy'n werth £1.3 biliwn.

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Mae Vortex IoT yn ychwanegiad ardderchog i Ranbarth Dinas Bae Abertawe, ac rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hir a hynod ffrwythlon. Mae Ffatri'r Dyfodol yn llwyfan ar gyfer datblygu, arddangos a chyflymu arloesedd ar gyfer gweithgynhyrchu smart er budd cynyddu cynhyrchedd a chystadleurwydd y diwydiant gweithgynhyrchu.

“Mae ein gwaith cynnar i ddod â chynhyrchion arloesol y cwmni i gydweithio'n agos â phrif linell ymchwil, arbenigedd a thalent y Coleg Peirianneg yn addo hwyluso datblygu cyfleoedd newydd gyda phartneriaid diwydiannol rhanbarthol eraill, na fyddai fel arall wedi bod yn bosibl."

Bydd y cynlluniau'n golygu bod Vortex IoT yn cydweithio â pheirianwyr medrus a gwyddonwyr o'r radd flaenaf mewn Canolfan Ragoriaeth a leolir yn agos at Gampws Bae Gwyddoniaeth ac Arloesedd Prifysgol Abertawe, lle bydd ddulliau arloesol i hybu cynhyrchiant y cwmni yn cael eu hymchwilio a'u gweithredu.

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig cyllid busnes hyblyg i gwmnïau sy'n seiliedig yng Nghymru ar ffurf benthyciadau ac ecwiti. Ymhlith ei arbenigeddau mae'n cynnig cyfalaf sbarduno a thwf i fusnesau sy'n seiliedig ar dechnoleg.

Yn ogystal â chynnig opsiynau ariannu rhwng £50,000 a £2 filiwn, gallant ddarparu buddsoddiadau dilynol hyd at £5 miliwn; mynediad at rwydwaith fawr o fuddsoddwyr ac angylion busnes; a budd o gael cydberthnasau cryf â deoryddion technoleg a phrifysgolion.