Busnes Aberystwyth yn ehangu drwy brynu tŷ llety

Emily-Jones
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Twf
Sunnymead

Mae’r gwestywyr Janet a Windsor Morgan yn ymddeol ar ôl 26 mlynedd fel perchnogion a rheolwyr Gwesty Sunnymead ar Stryd y Bont yn Aberystwyth.

Mae’r mentergarwr lleol Stuart Stephens wedi prynu’r gwesty, gan ychwanegu at ei bortffolio o fusnesau hamdden a lletygarwch lleol sy’n cynnwys y Bar 46 poblogaidd ar yr un stryd â Sunnymead. Ei fab Dale Stephens fydd yn rheoli'r ddau fusnes.

Gydag enw rhagorol, mae gan Sunnymead bum ystafell wely i westeion ynghyd ag eiddo tair ystafell wely ar wahân yn y cefn a fydd yn cael ei rentu fel llety hunangynhwysol. Mae gwaith adnewyddu eisoes wedi dechrau i uwchraddio a moderneiddio'r holl ystafelloedd ac ardaloedd cwsmeriaid.

Gyda chyngor Matt Godfrey o Cornerstone Finance, mae Stuart wedi sicrhau benthyciad o £160,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'n bwriadu parhau â'r etifeddiaeth a adawyd gan y perchnogion blaenorol a gwthio'r gwesty bach ymlaen yn 2022, gan alinio ei fusnesau ategol fel eu bod yn gweithio ar y cyd â'i gilydd wrth symud ymlaen.

Dywedodd Stuart Stephens: “Rwy’n gwybod pa mor galed y mae Janet a Windsor wedi gweithio i adeiladu enw da iawn i Sunnymead felly roeddwn yn awyddus i sicrhau y gallai’r busnes barhau i ffynnu ar ôl eu hymddeoliad, yn enwedig gan ei fod yn darparu llety y mae mawr ei angen ar gyfer gweithwyr lleol a thwristiaid ac mae o mor agos at Bar 46.

“Mae cefnogaeth Matt yn Cornerstone Commercial Finance ac Emily ym Manc Datblygu Cymru yn golygu bod gennyf bellach gynllun busnes a’r cyfalaf sydd ei angen i gaffael y busnes a gwneud y buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau llwyddiant hirdymor.”

Dywedodd Matt Godfrey, Rheolwr Masnachol yn Cornerstone Commercial Finance: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau’r cyllid sydd ei angen ar Stuart i ychwanegu Sunnymead at ei bortffolio sy’n cynyddu yn Aberystwyth. Roedd cefnogaeth arbenigol Emily i'r rhagamcanion yn golygu y gallem sicrhau bod Stuart yn bodloni'r meini prawf fforddiadwyedd a chael y strwythur ariannu priodol. O ganlyniad, mae Stuart yn elwa ar ad-daliadau llog yn unig am y chwe mis cyntaf wrth sefydlu a thyfu ei sylfaen defnyddwyr. Roedd y fargen hon yn un wych i’n cleient a sector twristiaeth y dref, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniad terfynol.”

Dywedodd Emily Jones, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel gwesty teuluol yng nghymuned lewyrchus Aberystwyth, rydym yn falch o fod wedi cefnogi Stuart i brynu Sunnymead. Mae’r cyllid o Gronfa Busnes Cymru yn golygu y gall y busnes barhau i fasnachu’n llwyddiannus, gan felly gadw cyflogaeth i bobl leol a darparu llety y mae mawr ei angen i ymwelwyr a thwristiaid fel ei gilydd yn ogystal â staff meddygol sydd angen llety tymor byr wrth weithio yn yr ysbyty.”

Ariennir Cronfa Busnes Cymru gwerth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda thymhorau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.