Busnes gemwaith mentergarwr ifanc ar fin hedfan gyda chefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Maggie Cross

Mae’r dylunydd, y gemydd a’r gof arian Maggie Cross yn ehangu ei busnes gemwaith bwtîc gyda chymorth micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae’r fam sengl 29 oed yn gwneud gemwaith bach ond hwyliog gan ddefnyddio technegau gof arian traddodiadol ac ailgylchu metelau gwerthfawr o’i stiwdio yn Aberteifi. Hyfforddodd yn yr Ysgol Gemwaith yn Birmingham ac mae’n defnyddio gweithdai yn yr Ardal Gemwaith enwog ar gyfer castio.

Mae benthyciad o £5,000 gan y Banc Datblygu wedi cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn stoc, castio a deunyddiau wrth iddi baratoi i ehangu i gwrdd â galw cwsmeriaid. Mae Maggie hefyd yn paratoi i lansio rhaglen o weithdai.

Dywedodd Maggie: “Rwy'n anelu at wneud fy mrand mor gynaliadwy â phosibl trwy ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu ac sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn unig. Ers cwblhau fy ngradd, treuliais fy amser yn adeiladu fy sylfaen cleientiaid a fy nilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae'r amser yn iawn rŵan i ehangu fy nghynnig.

“Mae'r benthyciad o £5,000 gan y Banc Datblygu wedi gwneud byd o wahaniaeth oherwydd mae'n golygu bod gen i'r cyfalaf gweithio nawr i fuddsoddi yn fy nghynnyrch. Mae eu cefnogaeth hefyd yn golygu bod gen i'r hyder bod gan y busnes y potensial i hedfan. Rwy’n ddiolchgar iawn am eu cymorth.”

Dywedodd Charlotte Price, Swyddog Cynorthwyol Buddsoddiadau o Fanc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda mentergarwyr ifanc fel Maggie, gan gydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w cefnogi.

“Mae Maggie wedi bod yn datblygu’r busnes ers rhai blynyddoedd ac mae eisoes wedi meithrin nifer fawr o ddilynwyr. Mae hi’n teimlo yn angerddol am yr hyn mae hi’n ei wneud felly mae gennym ni bob ffydd y bydd hi’n gwneud llwyddiant o’r busnes.”

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £32.5 miliwn yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael i fasnachwyr unigol, busnesau bach a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.