Busnes teuluol yn moduro'n ei flaen gyda buddsoddiad banc datblygu cymru

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
3As

3A's Leisure sy'n seiliedig yng Nghaerfyrddin yw'r busnes cyntaf yng Ngorllewin Cymru i elwa ar gyllid gan y Banc Datblygu Cymru Newydd.

Bydd buddsoddiad chwe ffigwr gan y Banc Datblygu Cymru newydd yn y busnes carafanau a chartrefi modur '3A's Leisure' yn creu deg o swydd newydd ac yn helpu i ariannu ei adleoliad i ystafelloedd arddangos pwrpasol ar safle 12 erw ar safle sioe Caerfyrddin.

Hwn yw’r buddsoddiad cyntaf ar gyfer y Banc newydd yng Ngorllewin Cymru a lansiwyd yn swyddogol ar 18 Hydref gan Ken Skates, Ysgrifennydd dros yr Economi ac Isadeiledd.
    
Fe'i sefydlwyd ym 1990 gan Lyn a Tegwen Evans, ac erbyn hyn mae tair cenhedlaeth o deulu'r Evans yn ymwneud â 3A's Leisure; sy'n cyflenwi carafanau a chartrefi modur newydd ac ail law gan bob un o'r prif werthwyr, gan gynnwys Swift, Buccaneer, Elddis, Chausson a Lunar. Bydd y benthyciad yn helpu i gyllido twf pellach gan gynnwys adleoli i adeiladau newydd sydd wedi cael eu hadeiladu’n bwrpasol ar hen faes y sioe yng Nghaerfyrddin.

Meddai'r Cyfarwyddwr, Lynn Evans: "Mae 28 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni ddechrau ym maes gwerthiannau carafanau ym Mhencader. Rydym bellach yn cyflogi 36 o staff, yn masnachu o ddau safle yng Nghaerfyrddin a Cross Hands, rydym yn elwa o gael gweithdy gwasanaeth ymroddedig ac rydym yn gwerthu tua 1,000 o garafanau a chartrefi modur y flwyddyn.

"Cafodd yr arian cyllido gan y Banc Datblygu Cymru newydd ei deilwra'n effeithiol i gwrdd â'n hanghenion penodol a bydd y buddsoddiad yn ein galluogi yn awr i adleoli ein safle yng Nghaerfyrddin yn Stephens Way i ystafelloedd arddangos pwrpasol newydd ar safle 12 erw ar faes sioe Caerfyrddin yn yr hydref 2018. Mae'n gyfnod cyffrous i ni wrth inni edrych tuag at fanteisio ar y galw cynyddol am gerbydau hamdden diolch i'w poblogrwydd cynyddol a'u fforddiadwyedd. "

Ychwanegodd Richard Easton, Swyddog Buddsoddi ar gyfer Banc Datblygu Cymru: "Mae'r teulu Evans wedi adeiladu busnes hynod lwyddiannus sy'n cael ei barchu'n dda. Trwy weithio gyda’r cyfrifwyr Pritchard & Co, rydym wedi gallu cynnig pecyn cymorth cynaliadwy ac effeithiol a fydd yn galluogi'r busnes teuluol i fanteisio ar gynhwysedd cynyddol a chyfleusterau gwell i gwsmeriaid a fydd hefyd yn creu arbedion o ran costau."

"Mae ein buddsoddiad yn cyd-fynd yn berffaith â'n cylch gorchwyl i ysgogi twf; gan gryfhau sefyllfa 3A's Leisure fel arbenigwr blaenllaw mewn marchnad £6 biliwn sy’n rhoi hwb a groesewir i'r economi. Rydym yn falch iawn o fod yn hwyluso'r stori lwyddiant bwysig hon ar gyfer Sir Gaerfyrddin. "
 
Daeth yr arian cyllido ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.

Mae'r banc datblygu'n darparu benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti o hyd at £5 miliwn fesul rownd. Mae hyd y benthyciadau yn amrywio o flwyddyn i ddeng mlynedd.