Busnes yn Ninbych yn prynu cartref gwledig ac ystad yn Sir Ddinbych diolch i fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru

Will-Jones
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Pool Park

Mae’r Godfrey Group sy’n seiliedig yn Sir Ddinbych wedi dechrau ar y gwaith o ail ddatblygu hen loches ac ystâd ger Rhuthun, gyda chynlluniau hirdymor i ail ddatblygu’r safle at ddibenion hamdden a lletygarwch.

Prynodd y busnes y safle gyda chefnogaeth benthyciad chwe ffigwr sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru, o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Mae Pool Park yn gyn loches yn Efenechtyd, gydag adeiladau a thiroedd yn dyddio'n ôl i'r 1800au cynnar. Roedd y plot, sy’n tua 30 erw yn safle neuadd a fferm sylweddol a aeth yn adfail ond mae’r manordy yn dyddio'n ôl i 1824, ynghyd â cherbyty, bloc boeler cyfagos a phorthdy yn parhau i fodoli ar y safle. Gwerthwyd y tŷ yn y 1930au, a chafodd ei ddefnyddio am gyfnod byr fel gwersyll carcharorion rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r Godfrey Group yn darparu gwasanaethau cyfleuster i nifer o gwmnïau yn y sectorau hamdden, tai ac addysg, gyda chleientiaid yn cynnwys Adra, Grŵp Cynefin, Center Parcs, Darwin Escapes ac awdurdodau lleol. Maent hefyd yn bartner strategol i Hoseasons.

Ar hyn o bryd mae’r busnes yn gweithredu allan o swyddfa ar Stad Ddiwydiannol Dinbych, a bydd yn symud i Pool Park fel rhan o’r cynlluniau adnewyddu, a fydd hefyd yn eu gweld yn ail ddatblygu’r safle ehangach ar gyfer gosodiadau gwyliau dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Andy Godfrey, Rheolwr Gyfarwyddwr y Godfrey Group: “Rydym yn falch iawn bod Banc Datblygu Cymru wedi gallu gweld ein gweledigaeth ar gyfer y safle hwn. Caniataodd y benthyciad a ddarparwyd i ni fynd ati i brynu Pool Park ac yna bwrw ati o ddifri gyda’n cynlluniau ar gyfer ail ddatblygu.”

“Mae’n dŷ a thiroedd hardd mewn rhan brydferth o’r byd, a thra bod y potensial yno ar gyfer ail ddatblygu, rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i barchu a chadw’r nodweddion sydd yma eisoes. Mae gan lawer o'r safle enghreifftiau gwych o grefftwaith Sioraidd ac mae hynny'n haeddu cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Rydym eisoes wedi cael llawer o ddiddordeb yn lleol gan bobl sy’n adnabod y safle’n dda neu’n arfer gweithio yno. Mae’r ymateb hwnnw wedi bod yn wych i’w weld, ac mae’n galonogol clywed gan gymaint o bobl sy’n gallu gweld y cariad sydd gennym at Pool Park ac sy’n hyderus yn ein cynlluniau ar gyfer yr hen stad.”

Dywedodd Will Jones, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae Andy a’r tîm yn Godfrey Group yn amlwg yn frwdfrydig ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Pool Park, ac roedd yn bleser eu cefnogi fel ein bod yn gweld eu gweledigaeth ar gyfer y ystad yn dwyn ffrwyth. Bydd y symudiad cychwynnol i swyddfa newydd, ar ôl ei gwblhau, yn caniatáu iddynt ehangu'r busnes presennol, ac mae gan Pool Park botensial mawr ar gyfer ehangu o ran yr ochr hamdden a llety.

“Rydym yn edrych ymlaen at wylio’r gwaith yn Pool Park wrth iddo ddatblygu, ac yn dymuno’r gorau i Andy a phawb yn Godfrey Group gyda’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru (CBHC) gwerth £500m yn cynnig buddsoddiad ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, gyda chymysgedd o fenthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bancdatblygu.cymru