Busnesau'n benthyca llai ond eu hyder ar gynnydd, yn ôl adroddiad blynyddol dirnad economi cymru

Sian-Price
Rheolwr Ymchwil a Phartneriaeth
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Dirnad Economi Cymru wedi cyhoeddi ei chweched adroddiad blynyddol sy’n archwilio ac yn dadansoddi'r tueddiadau economaidd yn 2023/24.

Caiff yr adroddiad ei gynhyrchu gan Ysgol Busnes Caerdydd fel rhan o brosiect ymchwil cydweithredol Dirnad Economi Cymru ar y cyd ag Ysgol Busnes Bangor, Ysgol Busnes Caerdydd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Ganolfan Ymchwil Menter a Banc Datblygu Cymru.

Mae’r adroddiad yn dangos gostyngiad yng nghyfran y busnesau ledled y DU sy’n manteisio ar gyllid allanol, a gostyngiad parhaus mewn benthyciadau i fusnesau bach Cymru yn ystod hanner olaf 2023. Mae nifer y bargeinion ecwiti hefyd wedi lleihau ledled y DU, gyda gostyngiad o chwarter yng nghyfanswm 2023 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ond gwelwyd cynnydd yn hyder busnesau, fel y’i cofnodwyd ym Mynegai Busnesau Bach y DU y Ffederasiwn Busnesau Bach, wrth i gyfraddau chwyddiant ostwng wedi bron i ddwy flynedd o weld hyder busnesau bach yn edwino.

Ymysg y pwyntiau eraill a amlygwyd yn yr adroddiad mae'r canlynol:

  • Mae 43% o fusnesau Cymreig a holwyd yn credu y bydd eu perfformiad yn gwella yn ystod y 12 mis nesaf
  • Yn ystod chwarter cyntaf 2024, amcangyfrifwyd bod Cynnyrch Domestig Gros y DU wedi cynyddu 0.6%
  • Yr economi ddomestig yw’r prif bryder i fusnesau bach o hyd o ran rhwystro twf
  • Mae nifer y busnesau sy'n dod i ben yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na nifer y busnesau newydd sy'n cael eu sefydlu
  • Gallai pryderon ynghylch y gostyngiad mewn allforion o Gymru gael effaith fawr ar Fynegai Cynhyrchu Cymru

Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar weithgarwch blynyddol Banc Datblygu Cymru, a fuddsoddodd gyfanswm o £125 miliwn ledled Cymru yn 2023/24 drwy 490 o fuddsoddiadau.

Mae’r adroddiad yn nodi bod mwy na hanner y buddsoddiadau a wnaed gan y Banc Datblygu yn ystod 23/24, ar draws cronfeydd dyled ac ecwiti, yn fuddsoddiadau mewn microfusnesau.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Yn ogystal â helpu i lywio gwaith Banc Datblygu Cymru, mae'r wybodaeth a gafodd ei chywain gan Dirnad Economi Cymru yn adnodd sy’n cefnogi cyd-ddealltwriaeth o fusnesau ac anghenion busnesau yng Nghymru. 

“Mae’r adroddiad yn adlewyrchu effaith gadarnhaol Banc Datblygu Cymru o ran cefnogi busnesau yng Nghymru i ymsefydlu a thyfu drwy gydol 2023/24; blwyddyn a welodd berfformiad cryf gan y Banc er gwaethaf yr heriau economaidd ehangach.”

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i fusnesau ledled Cymru, ac roedd y gostyngiadau a welwyd mewn ecwiti a benthyca yn fwy cyffredinol i’w ddisgwyl tra bod yr amgylchiadau economaidd ehangach yn parhau i fod yn ansefydlog. Fodd bynnag, mae'n braf gweld hyder newydd ymysg busnesau wrth i gyfraddau chwyddiant ostwng – mae hynny’n hwb calonogol mawr ei angen ar ôl cyfnod anodd.

Ychwanegodd: “Rwyf hefyd yn falch bod Banc Datblygu Cymru wedi gallu cefnogi busnesau Cymreig – yn enwedig fusnesau llai, a gafodd fwy na hanner ein buddsoddiadau yn 2023/24.”

Dywedodd yr Athro Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n un o awduron yr adroddiad: “Unwaith eto, mae’r adroddiad blynyddol yn dangos arwyddocâd gweithgarwch Banc Datblygu Cymru gyda buddsoddiadau yn y flwyddyn ariannol 2023/24 hon yn gysylltiedig â thua 3,400 o swyddi newydd a swyddi wedi’u diogelu, a chyda microfusnesau yn parhau i ennill cyfran sylweddol o gyllid newydd. Mae’r ystod eang o brosiectau y mae’r Banc Datblygu yn ymwneud â nhw, ar draws sectorau a seilwaith, yn arbennig o galonogol.”