Bywyd gyda Banc Datblygu Cymru: Claire Sedgwick

Claire-Sedgwick
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

1985 oedd hi pan ymunais â Rhaglen Datblygu Rheoli Natwest am y tro cyntaf. Ac os neidiwn ni ymlaen yn gyflym i 2017 rwyf finnau'n falch iawn o ddweud fy mod yn arbenigwr eiddo sy'n gweithio i'r Banc Datblygu Cymru newydd.

Mae eiddo wastad wedi bod rhywbeth rydw i'n teimlo yn angerddol yn ei gylch. Yr hyn rydw i wedi arbenigo ynddo dros yr 17 mlynedd diwethaf yw cyllid ar gyfer datblygiadau preswyl a masnachol a dyna pam rydw i'n teimlo mor gyffrous ynghylch Cronfa Eiddo Cymru sydd newydd gael ei ehangu.

Mae'r rhain yn gyfnodau cyffrous. Fel tîm, mae gennym y profiad a'r adnoddau i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen yn ein hardal ni. Mae bob dydd yn wahanol ac mae pob wythnos yn dod â chyfle i helpu i ariannu twf a chyfleoedd ar gyfer datblygwyr lleol. O brosiectau adnewyddu i ddatblygiadau tai newydd, rydyn ni yma i gefnogi cynlluniau masnachol hyfyw sydd angen ein help ni...

Gan weithio gyda datblygwyr a chontractwyr ar hyd a lled gogledd a chanolbarth Cymru, rwyf wrth fy modd gyda'r ysbryd cymunedol cryf yn y rhan hon o'r byd ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm y banc datblygu. Rydyn ni'n gweithio'n galed, rydym yn tynnu at ein gilydd ac rydym yn cefnogi'r rhai o'n cwmpas. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r buddsoddiadau a wnawn a'r arian rydym yn ei reoli; yn amrywio o'n dawns elusennol flynyddol wych i ddigwyddiadau rheolaidd ar gyfer codi arian fel tîm ar lefel leol, rydyn ni yn gwneud popeth gyda'n gilydd bob cam o'r ffordd. Dyna pam mae Banc Datblygu Cymru yn lle mor wych i fod yn rhan ohono.