Cadarnhau angylion busnes benywaidd fel prif fuddsoddwyr

Carol-Hall
Rheolwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Ecwiti
Busnesau technoleg
WAW

Mae Banc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi penodiad dwy fenyw sy’n angylion busnes fel prif fuddsoddwyr gydag Angylion Cymru sy’n Ferched (ACM), y syndicet buddsoddi angylion busnes ar gyfer menywod.

Mae'r bancwr buddsoddi Sharon Pipe a'r arbenigwraig yn y diwydiant yswiriant, Rachel Ashley, yn ymuno â'i chyd-angel busnes Jill Jones fel prif fuddsoddwyr ac aelodau o AMC, syndicet o dros 30 o fenywod a sefydlwyd yn 2022 gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi'i sefydlu i helpu i gefnogi menywod yn y gymuned fuddsoddi cyfnod cynnar yng Nghymru, mae ACM bellach yn cael ei gefnogi ar y cyd gan Fanc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru. Mae gan y syndicet fynediad i gyd-fuddsoddiad o hyd at £250,000 ar gyfer pob cytundeb o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £8 miliwn y Banc Datblygu.

Gyda gyrfa mewn cyfalaf menter a bancio buddsoddi, mae Sharon wedi gweithio yn America fel Rheolwr Gyfarwyddwr-Rhyngwladol ar gyfer GE Equity. O dan ei harweinyddiaeth hi, adeiladodd y tîm rhyngwladol bortffolio o tua $325 miliwn mewn buddsoddiadau uniongyrchol, buddiannau partneriaeth cyfyngedig o $360 miliwn ac ymrwymodd cronfeydd cyd-fuddsoddi o $600 miliwn. Gwasanaethodd hefyd fel Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cronfa Ecwiti Ewropeaidd GE Capital Partners.

Gadawodd Sharon GE Capital i sefydlu TH Lee Putnam Ventures a chododd dros $1biliwn i fuddsoddi mewn cwmnïau menter cam diweddarach, allbryniannau, cwmnïau deilliedig ac endidau cyhoeddus gan ddefnyddio technolegau gwybodaeth i ail-beiriannu a chynyddu graddfa. Fel Partner Rheoli, bu Sharon yn arwain ac yn rheoli gweithgareddau'r Gronfa y tu allan i'r Unol Daleithiau yn Asia ac America Ladin yn bennaf yn ogystal â nifer o fuddsoddiadau technoleg ariannol yn UDA. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi cynghori nifer o gwmnïau a gefnogir gan fenter ac mae ganddi amryw o swyddi fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

Graddiodd Rachel Ashley o Brifysgol Abertawe ac Ysgol Reolaeth Graddedigion Awstralia. Dechreuodd ei gyrfa gyda Banc y Gymanwlad cyn symud ymlaen i Aegon fel Cyfarwyddwr Marchnata yn gyfrifol am Hong Kong SAR, Gwlad Thai, UDA ac Awstralia. Aeth ymlaen i ymuno â Zurich Financial Services yn Awstralia gyda chyfrifoldeb am ysgogi trawsnewid cyn dod yn Bennaeth Cyflenwi Portffolio Strategol ar gyfer QBE Insurance.

Ers dychwelyd i Gymru, mae Rachel wedi dal swyddi Cyfarwyddwr Anweithredol ac mae’n Aelod o Fwrdd Cynghori amrywiol BBaChau. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor Pwyllgor Ymgynghorol Recriwtio Gogledd Cymru ar gyfer Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU.

Carol Hall yw Rheolwr Buddsoddi Angylion Buddsoddi Cymru. Meddai: “Mae Sharon a Rachel yn dod â chyfoeth o brofiad i Angylion Cymru sy’n Ferched ac yn rhannu ein hangerdd dros fuddsoddi angel cynyddol yng Nghymru a chefnogi mentergarwyr benywaidd.

“Mae adeiladu’r ecosystem angel yng Nghymru yn flaenoriaeth i ni, yn enwedig gan fod data’n dangos bod menywod yn llawer mwy tebygol o fuddsoddi mewn cwmnïau sydd wedi’u sefydlu gan fenywod. Felly mae gan ferched angylion fel Jill, Sharon a Rachel rôl hollbwysig i'w chwarae wrth gefnogi mentergarwch benywaidd. 

Dywedodd Susan Nightingale, Cyfarwyddwr Gwledydd Datganoledig Banc Busnes Prydain: “Bydd cael Sharon a Rachel yn fuddsoddwyr arweiniol ochr yn ochr â Jill yn rhoi hwb gwirioneddol i waith Angylion Cymru sy’n Ferched, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y syndicet yn parhau i esblygu a thyfu. Gobeithiwn y bydd y penodiadau newydd hyn yn denu mwy o ddiddordeb gan fuddsoddwyr benywaidd, a gallwn weithio gyda’n gilydd i wella cynrychiolaeth mewn cymunedau cyllid ac ail-gydbwyso tirwedd buddsoddi cyfnod cynnar Cymru.”