Canlyniadau hanner blwyddyn ar gyfer Banc Datblygu Cymru

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Ecwiti
Marchnata
Busnesau technoleg
Dechrau busnes
Giles Thorley

Mae mwy na 200 o fusnesau Cymreig wedi elwa ar 239 o fuddsoddiadau gwerth cyfanswm o £51 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru yn ystod hanner cyntaf blwyddyn 2023/24 gyda chyd-fuddsoddiad preifat o £26.6 miliwn yn ychwanegol sy’n mynd â chyfanswm yr effaith economaidd i £77.7 miliwn.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod 1,718 o swyddi wedi'u creu neu eu diogelu. Mae 30% o gwsmeriaid wedi elwa ar fenthyciadau llwybr cyflym symlach sy'n galluogi busnesau i fanteisio ar gyfleoedd twf fel buddsoddi mewn mwy o stoc neu offer newydd. Mae 48 o’r buddsoddiadau hyd yma wedi bod ar gyfer busnesau newydd a 47 wedi mynd i fentergarwyr ifanc 30 oed ac iau wrth i’r Banc Datblygu barhau i ganolbwyntio ar gefnogi diwylliant mentergarol yng Nghymru.

Gyda chylch gorchwyl i wasanaethu Cymru gyfan, mae 85% o fuddsoddiadau'r Banc wedi mynd i fusnesau y tu allan i ardal Caerdydd gyda Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi elwa o £13.8 miliwn drwy Gronfa Busnes Cymru gwerth £216 miliwn a ariennir gan ERDF. Mae'r gronfa ar y trywydd iawn i gael ei buddsoddi'n llawn ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon.

Gydag amodau’n anodd eu rhagweld a busnesau’n canfod bod eu cynlluniau twf yn cael eu heffeithio, dywed y Prif Weithredwr Giles Thorley fod yr angen am fuddsoddiad hirdymor a thwf cynaliadwy yn bwysicach nag erioed. Meddai: “Ein rôl ni yw cefnogi busnesau Cymru gyda chyflenwad parhaus o gyllid dyled ac ecwiti i alluogi twf economaidd tra’n creu effaith gymdeithasol gadarnhaol trwy wneud yn siŵr bod busnesau Cymru yn gallu cael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i ffynnu.

“Mae ansicrwydd economaidd parhaus yn parhau i fod yn amlwg ar hyd a lled Cymru wrth i fusnesau barhau i jyglo costau gweithredu cynyddol, oedi yn y gadwyn gyflenwi a chystadleuaeth am sgiliau a thalent. Drwy ddarparu’r buddsoddiad cywir ar yr adeg gywir, gallwn gefnogi cynaliadwyedd hirdymor ein cwsmeriaid, o gyfnod sbarduno, cyfnod cynnar neu busnesau sydd wedi dechrau o’r newydd i fusnesau mwy sefydledig yn ogystal â thrafodion olyniaeth.

“Rwyf wedi fy nghalonogi gan ein ffigurau ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda llawer ohonynt yn cyfateb neu’n rhagori ar ein perfformiad ar yr un adeg y llynedd. Rwy'n arbennig o falch bod ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd newydd yn perfformio'n dda a bod llawer o ddiddordeb gan fusnesau Cymru sydd am drosglwyddo i sero net.

“Bydd ein Swyddogion Buddsoddi ymroddedig yn parhau i ganolbwyntio ar gymdeithas a chynhwysiant ariannol fel bod ein cronfeydd yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar hyd a lled Cymru.”