Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Cliriad gan yr FDA ar gyfer dyfais endosgopi newydd creo

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
creo

Mae dyfais endosgopi newydd Creo Medical Group wedi cael cliriad 510k gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau (FDA).

Mae'r newyddion hwn yn garreg filltir arwyddocaol arall i'r cwmni, sydd â'i bencadlys yng Nghas-gwent, a dyma un o sawl cliriad rheoleiddiol ychwanegol a ddisgwylir, a fydd yn cyflwyno cyfres o ddyfeisiau i'r marchnadoedd endosgopi hyblyg yn yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau.

Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo: “Rydym yn falch iawn o gael cliriad gan yr FDA ar gyfer ein dyfais Haemostasis HS1, sef y defnydd cyntaf o'n technoleg haemostasis unigryw nad yw'n glynu. Mae'r tîm peirianneg wedi gweithio'n anhygoel o galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyrraedd y cam hwn gyda'r ddyfais HS1. Mae'n parhau i weithio'n galed i sicrhau cymeradwyaeth reoliadol ar gyfer ein cyfres gyfan o gynhyrchion llawfeddygaeth datblygedig sy'n seiliedig ar ynni ar gyfer y marchnadoedd endosgopi hyblyg. Er bod COVID-19 yn creu heriau ac ansicrwydd i ni yn gymaint ag unrhyw fusnes arall, rydym wedi cael ein hariannu'n dda a byddwn yn barod i fwrw ati pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio. Yn y cyfamser, rydym yn barod i gefnogi mentrau yn y sector er mwyn cyflymu'r cyflenwad o offer meddygol i'r GIG.”

Creo yw'r pedwerydd cwmni ym mhortffolio Banc Datblygu Cymru i gael ei restru ar AIM yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Llwyddodd y cwmni i godi dros £20 miliwn gyda’u cynnig cyhoeddus cychwynnol (IPO) ym mis Rhagfyr 2016.   

Ychwanegodd Dr Richard Thompson o Fanc Datblygu Cymru: "Mae'r  cliriad pellach hwn gan yr FDA yn garreg filltir nodedig arall i Craig a'r tîm yn Creo wrth iddynt barhau i ddarparu cyfres o dechnolegau meddygol arloesol sy'n torri tir newydd er mwyn creu manteision sylweddol i gleifion a'r gymuned feddygol ledled y byd. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.”