Creo Medical yn caffael Albyn Medical S.L.

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Creo Medical Group plc (AIM: CREO), y cwmni dyfeisiau meddygol sy’n canolbwyntio ar y maes endosgopi llawfeddygol sy’n prysur ddatblygu ac a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru, wedi cyhoeddi ei fod wedi caffael Albyn Medical S.L. (“Albyn Medical”).

Arbenigwr Ewropeaidd ar gyflenwi a gweithgynhyrchu cynhyrchion Gastroenteroleg, Wroleg ac Endosgopi i ddarparwyr gofal iechyd yw Albyn Medical. Mae'r fargen yn werth o €24.8 miliwn o ecwiti ynghyd â hyd at €2.7 miliwn o gydnabyddiaeth yn gysylltiedig â pherfformiad sy'n daladwy dros y ddwy flynedd nesaf.

Trefniant caffael synergaidd sy'n darparu mynediad ar unwaith i'r farchnad

Gyda thîm gwerthu a marchnata o bron i 40 a phresenoldeb yn Sbaen, Ffrainc, yr Almaen a'r DU, mae caffael Albyn Medical yn cyd-fynd â'r strategaeth a nodwyd gan Creo pan gododd arian y llynedd ac mae'n darparu platfform masnachol a dosbarthu iddo er mwyn cyflymu datblygiad ei fusnes yn Ewrop. Mae Albyn Medical yn canolbwyntio ar gynhyrchion gastroberfeddol ac mae'r trefniant caffael yn darparu llwybr uniongyrchol i'r farchnad ar gyfer cyfres lawn Creo o ddyfeisiau ynni gastroberfeddol datblygedig sydd â'r marc CE.

Synergeddau caffael

  • Mae Albyn Medical yn gwerthu ei nwyddau traul ei hun a nwyddau trydydd parti gyda 90% o'r refeniw yn deillio o gynhyrchion endosgopi gastroberfeddol
  • Mae Albyn Medical yn enw uchel ei barch ym maes endosgopi gastroberfeddol ac Wroleg ac mae ganddo gysylltiadau masnachol â meddygon ac ysbytai ar draws tiriogaethau Ewropeaidd allweddol
  • Mae'r trefniant caffael yn ychwanegu ystod o gynnyrch sy'n ategu ei gynnyrch presennol yn sylweddol gan ehangu'r amrywiaeth o gynnyrch gastroberfeddol a rhoi cyfle i ehangu i'r maes Wroleg
  • Yn dilyn ehangu tîm Creo yn ddiweddar ar y cyd ag ôl troed gwerthiant a marchnata Albyn Medical, bydd gan y busnes mwy hwn dîm cryf o 175, gan weithredu'n uniongyrchol mewn pum gwlad
  • Mae'r trefniant caffael yn cyfuno eiddo deallusol byd-eang sylweddol, arloesedd, peirianneg ac ystod o gynhyrchion arloesol Creo, gyda gallu helaeth Albyn Medical yn y meysydd gwerthu, gwasanaeth, logisteg, cynhyrchu ac allforio 

 

Dywedodd Luis Collantes, Llywydd Albyn Medical: “Rwy’n falch iawn o ymuno â Creo Medical ar drothwy cyfnod newydd o dwf cyffrous yn ein busnes. Dros y 25 mlynedd diwethaf, rydym wedi sefydlu busnes o safon fyd-eang sy'n canolbwyntio ar ddatblygu portffolio o ddyfeisiau meddygol trydydd parti a'n brand ein hunain sy'n cyflenwi partneriaid a dosbarthwyr yn fyd-eang. Drwy gyfuno hyn â'r dyfeisiau ynni datblygedig newydd a chyffrous sydd wrth wraidd Creo, ceir cyfle gwych i barhau â'r gwaith y mae Albyn Medical wedi'i wneud hyd yma ac i ddatblygu'r broses o gyflwyno cynnyrch ategol Creo yn fasnachol."

Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo: “Mae Albyn Medical yn cydweddu'n arbennig o dda â Creo. Mae'r cyfuniad yn dwyn ynghyd ystod eang o gynhyrchion gastroberfeddol ategol, gyda chyfle i ehangu'r portffolio i faes Wroleg, ac mae'n rhoi gallu sylweddol i ni o ran marchnata a gwerthu i gefnogi ein presenoldeb masnachol yn Ewrop a chyflwyno ein hystod arloesol o ddyfeisiau ynni datblygedig. Rwy’n falch iawn o groesawu Luis a’i dîm i deulu Creo ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i drawsnewid yn sylweddol y ffordd y mae endosgopi hyblyg yn cael ei ddefnyddio yn Ewrop.”

Ychwanegodd Dr. Richard Thompson o Fanc Datblygu Cymru: "Mae Craig a'r tîm yn Creo yn parhau i ddatblygu technolegau meddygol arloesol sy'n torri tir newydd. Mae'r trefniant caffael hwn yn cryfhau portffolio'r cwmni ymhellach a dymunwn bob llwyddiant iddo."