Croesawu ecwiti - Steve Harris o Nuvias yn siarad â ni am eu cyllid ecwiti

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Steve Harris

Fe ddaw yr adeg ym mhob busnes sefydledig pan fyddwch chi'n penderfynu eich bod am symud eich llwyddiant ymlaen i lefelau newydd. Twf cyflymach. Yn aml mae gwneud hyn yn ymofyn am fuddsoddiad sylweddol ac mae nifer o opsiynau ariannu ar gael.

Siaradodd Steve Harris, Rheolwr Gyfarwyddwr Nuvias (Siphon gynt), darparwr telathrebu sy'n seiliedig yng Nghwmbrân â ni ynghylch pam wnaed y penderfyniad ganddyn' nhw i ddewis partner ecwiti ar gyfer twf a'r buddion y gall hynny ei gynnig.

"Fe wnaethom edrych ar wahanol fathau o gyllid, ac roedd ariannu trwy gyfrwng ecwiti yn un ohonyn nhw ... fe wnaethom edrych ar nifer o opsiynau, ond fe wnaethom benderfynu ein bod eisiau partner a fyddai'n ein helpu ni, yn hwyluso pethau i ni a mynd â ni i'r lefel nesaf. Fe wnaethom benderfynu mai'r unig ffordd y gallwn wneud hyn mewn gwirionedd oedd gyda phartner ecwiti."

"Fe wnaethom edrych mewn sawl man, yr oeddem wir eisiau gwneud yn sicr ein bod yn gweddu ar lefel diwylliannol cryf. Roeddem eisiau cael rhywun a allai roi cyngor i ni ar ein lefel twf nesaf a wirioneddol bod yno i ni pan oedden ni eu hangen nhw."

"Pan fyddwch chi'n cael ecwiti, byddwch ... yn cael llawer mwy nag arian, dylech chi fanteisio ar y cyngor a cheisio ei gofleidio a'i gynnwys gymaint ag y gallwch."

"Ceisiwch weld ecwiti mewn goleuni cadarnhaol, pan fo pobl yn meddwl am y diwydrwydd dyladwy, fe all fod yn beth negyddol, ond os ydych chi wirioneddol yn ei gofleidio ... mae'n eich helpu i ddeall beth sy'n dda ac yn ddrwg am eich busnes ac mae hynny mewn gwirionedd yn eich helpu chi i wella."

(gweler fideo am fwy )

 

Be' nesaf?

Mae Banc Datblygu Cymru yn fuddsoddwr ecwiti gweithgar a gall ddarparu benthyciadau ac ecwiti o hyd at £5 miliwn ar gyfer busnesau yng Nghymru.

Ymgesisio nawr Cysylltu â ni