Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn ymadael â Coincover mewn dêl nodedig i alluogi cyfalafwyr menter arbenigol i gefnogi twf hirdymor

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Adam and David, co-founders of Coincover

Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru wedi ymadael yn rhannol â Coincover, llwyfan yng Nghaerdydd sy'n darparu gwasanaethau yswiriant ac adfer cryptoarian, gan alluogi'r cwmni i godi $9.2m mewn rownd Cyfres A a arweinir gan y gronfa cyfalaf menter fyd-eang Element Ventures.

Dyma'r ymadawiad cyntaf i Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, a gefnogodd syndicet o angylion busnes dan arweiniad Ashley Cooper gydag uchafswm o £250,000 o gyllid cyfnod cynnar yn Coincover mewn dwy rownd yn dechrau ym mis Tachwedd 2018. Bydd Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn cadw ei rhan o'i chyfranddaliadau tra bydd Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi £390,000 arall drwy ei Gronfa Buddsoddi Hyblyg i Gymru.

Wedi'i sefydlu ym mis Mai 2018 gan y Prif Swyddog Gweithredol David Janczewski, mae Coincover yn adeiladu safon diogelwch y byd ar gyfer cryptoarian. Mae eu gwasanaethau'n sicrhau nad yw defnyddwyr a busnesau byth yn colli mynediad i gronfeydd cryptoarian oherwydd camgymeriad defnyddiwr, methiant busnes neu fethiant seilwaith. Drwy gyfuno technoleg uwch a gwarantau a gefnogir gan yswiriant maent yn darparu opsiynau adfer trychineb a pharhad busnes ar gyfer busnesau cryptoarian ac yn galluogi defnyddwyr i ymuno â'r farchnad gyffrous hon yn ddiogel. Mae cannoedd o gwmnïau'n defnyddio llwyfan Coincover, gan gynnwys y darparwyr waled BitGo, Curv a Fireblocks, gyda miliynau o ddefnyddwyr posibl yn cael eu diogelu drwy ei dechnoleg.

Mae Coincover bellach wedi codi $9.2 miliwn mewn cyllid Cyfres A i ehangu’n gyflym. Arweiniodd Element Ventures y rownd, ynghyd â chyfranogiad gan DRW Venture Capital, CMT Digital, Avon Ventures, Valor Equity Partners, FinTech Collective, "Susquehanna Private Equity Investments, LLLP" a Volt Capital. Ynghyd â £390,000 o gyllid ecwiti dilynol gan Fanc Datblygu Cymru, defnyddir yr arian i ysgogi ymwybyddiaeth o’r cynnig cynnyrch a thyfu'r tîm fel y gall Coincover gefnogi mwy o'r farchnad crypto.

Dywedodd David Janczewski, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Coincover: "Gall Crypto fod yn gymhleth ac yn ddryslyd ac mae gan bobl ofnau dilys ynghylch diogelwch eu harian. Gyda Coincover, rydym yn darparu bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer marchnad sy'n aeddfedu'n gyflym drwy sicrhau y gellir amddiffyn pobl rhag gwneud camgymeriad a all gostio miloedd iddynt yn y pen draw. Mae'r buddsoddiad hwn yn golygu y gallwn ehangu’n gyflym yn unol â gofynion y farchnad a defnyddwyr, ac wrth wneud hynny sicrhau bod mwy o bobl yn gallu buddsoddi mewn crypto yn ddiogel."

Dywedodd Ashley Cooper, Buddsoddwr Arweiniol Angylion Cymru a Chadeirydd y Bwrdd yn Coincover: "Mae wedi bod yn daith anhygoel i Coincover ers i'n syndicet arwain y rownd ariannu gychwynnol yn 2018. Roedd gallu cael mynediad i Gyd-gronfa Angylion Buddsoddi Cymru ar gyfer cyllid cynnar yn hanfodol i ganiatáu i'r Cyd-sylfaenwyr David ac Adam, a'u tîm cynnar, fireinio a phrofi'r cynnig yn y farchnad a sicrhau ffit cychwynnol yn y farchnad gynnyrch cyn ei lansio'n fasnachol yn 2020. Ers ei lansio, mae'r busnes wedi tyfu’n gyflym gyda thwf enfawr yn y tîm, cwsmeriaid a’r Adroddiad Cysoni Blynyddol (ARR). Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r buddsoddwyr newydd i helpu i gyflawni potensial enfawr y farchnad drwy ddod yn safon diogelwch fyd-eang ar gyfer cryptoarian."

Dywedodd Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: "Gyda thîm rheoli gwych, mae Coincover yn adeiladu'r seilwaith a fydd yn caniatáu i crypto gael ei fabwysiadu’n dorfol.

"Ar ôl cyrraedd ein terfyn buddsoddi, mae ein hymadawiad wedi paratoi'r tir ar gyfer Element fel cyllidwyr rhai o'r cwmnïau gorau sy'n adeiladu technoleg ariannol y dyfodol i roi cyfle i Coincover ehangu gyda chyllid Cyfres A.  Fel buddsoddwyr cyfnod cynnar, mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cefnogi David a'r angylion busnes ar eu taith hyd yma, yn enwedig gan fod hon yn stori o lwyddiant ysgubol i Gaerdydd fel canolfan sy'n ffynnu ar gyfer crypto. Byddwn hefyd yn cadw rhywfaint o gyfranddaliadau i elwa o dwf y cwmni yn y dyfodol."

Rhian Elston yw Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru. Dywedodd: "Crëwyd Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru i annog mwy o angel-fuddsoddi yng Nghymru ac adeiladu mwy o syndicetau angylion. Mae cyflawni ein hymadawiad cyntaf yn ffordd gadarnhaol iawn o ddangos manteision angel-fuddsoddi. Mae'r gronfa wedi chwarae rhan allweddol yn cefnogi dechrau'r busnes ac mae bellach wedi creu'r lle i fuddsoddwyr sefydliadol mwy arwain y cam twf nesaf.

"Mae elfen o risg bob amser gyda chyllid cyfnod cynnar ond mae hwn yn ymadawiad nodedig i Angylion Buddsoddi Cymru gan ei fod wedi creu’r lle a rhoi cyfranddaliadau ar gael i fuddsoddwyr sefydliadol mwy i gefnogi twf hirdymor Coincover.  Mae hefyd yn gyfle tymor hwy gwych i'n tîm buddsoddi technoleg arbenigol barhau i gefnogi'r gwaith o ehangu Coincover fel busnes newydd Cymreig sy’n cael ei ariannu gan ecwiti."

What's next?

Get in touch with our dedicated investment team to find out more or if you think you're investment ready apply today. 

Contact us Apply now