Cwmni gofal iechyd o Gas-gwent yn lansio prawf gwaed cartref cyntaf ar gyfer COFID-19 sy'n cwrdd â chanllawiau’r MHRA

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Forth Sarah Bolt

Mae cwmni gofal iechyd a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru, Forth, wedi llwyddo i greu prawf labordy am wrthgyrff Cofid 19 a ellir ei ddefnyddio gartref. Y prawf pigo bys hwn yw'r cyntaf i fodloni canllawiau MHRA y DU, sy'n golygu y gall y cyhoedd ei ddefnyddio erbyn hyn. Gellir cymryd samplau gwaed gartref ac yna eu postio i'w dadansoddi mewn labordy i gadarnhau presenoldeb gwrthgyrff Cofid 19.

Dywedodd y Prif Weithredwr Sarah Bolt ei bod hi'n falch ei bod wedi gallu canolbwyntio ymdrechion Forth ar helpu’r frwydr yn erbyn y pandemig coronafirws:

“Rydyn ni wir yn credu mewn helpu'r gymuned a chefnogi iechyd a lles trwy brofion cywir, safonol MHRA. Mae Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraethau Cymru a'r DU yn pwysleisio'r angen am brofion gwrthgyrff cywir a chyflym. Cyn gynted ag y dechreuodd yr argyfwng hwn roeddem yn gwybod ein bod am wneud cyfraniad cadarnhaol wrth helpu i drechu'r afiechyd hwn. Profwyd bod olrhain a phrofi'r firws yn gywir yn helpu i fflatio'r gromlin ac mewn rhai gwledydd trechu Cofid 19. Rydym yn ddiolchgar i Abbott Laboratories sydd wedi datblygu'r profion a'n partneriaid labordy, Eurofin sydd wedi dilysu ei ddefnydd ar gyfer samplau pigo bys, er mwyn caniatáu inni sicrhau bod hyn ar gael cyn gynted ag y bydd yn cwrdd â'r meini prawf dilysu uchel a nodwyd gan yr MHRA."

Ystyrir bod profion gwrthgyrff yn bwysig er mwyn adnabod y bobl hynny sydd eisoes wedi cael y clefyd ond nad ydynt efallai'n gwybod hynny. I'r rhan fwyaf o bobl, mae Cofid 19 yn salwch ysgafn gyda symptomau tebyg i afiechydon anadlol eraill fel yr annwyd neu'r ffliw cyffredin. Mae canran o bobl hefyd yn dal y clefyd hwn ond nid ydynt yn dangos unrhyw symptomau. Mae gallu nodi pwy sydd eisoes wedi cael y clefyd yn helpu gwyddonwyr a meddygon i fonitro lledaeniad yr haint a chadarnhau a yw Cofid 19 eisoes wedi rhoi imiwnedd i rywun rhag cael eu heintio ymhellach.

Mae'r prawf pigo bys yn brawf a ddadansoddir mewn labordy i chwilio am bresenoldeb gwrthgyrff Cofid-19 IgG sy'n datblygu ar ôl dod i gysylltiad â'r firws. Mae hyn yn wahanol i'r profion gwrthgyrff cyflym sydd wedi profi i fod yn annibynadwy. Mae'r prawf a gynigir gan Forth yn cwrdd â chanllawiau gofynnol yr MHRA o benodoldeb a sensitifrwydd o fwy na 98%, ac mae ganddo farc CE. Gellir prynu pob cit pigo bys ar-lein gyda'r samplau yn cael eu cymryd yn y cartref neu'r gweithle, cyn eu hanfon i ffwrdd i'w dadansoddi. Mae'r prawf gwrthgorff ar gael ar hyn o bryd i bobl dros 18 oed.

Dywedodd Dr Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn gan Sarah a’r tîm yn Forth. Fel cwmni, maen nhw wastad wedi canolbwyntio ar wella a gwneud y gorau dros iechyd a lles pobl. Mae lansio prawf gwrthgorff i'w ddefnyddio yn y cartref sy'n cwrdd â chanllawiau MHRA mor gyflym yn gyflawniad trawiadol. Rydyn ni i gyd wedi gweld cymaint o sylw newydd yn cadarnhau pa mor bwysig yw hyn yn y frwydr yn erbyn Cofid 19.”