Cwmni gofal yn cymryd camau cyntaf y tu allan i Gaerdydd diolch i gymorth y Banc Datblygu

Sally-Phillips
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Busnesau technoleg
React Support Services

Mae cwmni gofal yn Ne Cymru wedi ymgymryd â’i ehangiad cyntaf y tu allan i Gaerdydd, gyda chefnogaeth buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae React Support Services yn ddarparwr gofal cymdeithasol arbenigol gwasanaethau preswyl a byw â chymorth, sy’n cefnogi oedolion dros 18 oed yn y gymuned â chyflyrau iechyd meddwl a/neu anawsterau dysgu wrth iddynt ymdrechu i fyw bywyd mwy annibynnol a boddhaus.

Ers 2009, mae’r cwmni o Gaerdydd wedi agor 13 o wasanaethau gwahanol yn ardal Caerdydd i ddarparu cymorth arbenigol wedi’i deilwra i unigolion sy’n byw yn y gymuned. Mae ei dîm clinigol mewnol sy’n cynnwys meddygon a nyrsys, ynghyd â’i lwybr adferiad pedwar cam unigryw, wedi galluogi’r unigolion o dan ei ofal i wneud cynnydd a chyflawni canlyniadau cadarnhaol wrth fyw gydag React.

Mae React yn gweithio gyda 15 o awdurdodau lleol a byrddau iechyd gwahanol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n parhau i ddiwallu’r anghenion a roddir ar wasanaethau heddiw.

Nawr, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, maen nhw wedi cymryd safle newydd yn ardal Rhondda Cynon Taf, sy’n caniatáu i'r cwmni ehangu a darparu gwasanaethau mawr eu hangen yn y maes hwn.

Mae'r benthyciad o £650,000 gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru'r Banc Datblygu wedi caniatáu i React brynu ac ailosod adeilad yn ardal y Rhondda i'w drawsnewid yn wyth fflat byw â chymorth.

Bydd y tîm staff 24 awr ar y safle newydd yn rhoi cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r preswylwyr newydd y maent yn edrych ymlaen at eu croesawu yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd Andrew Donnelly, rheolwr gyfarwyddwr React Support Services: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio ochr yn ochr â'r Banc Datblygu i sicrhau'r safle newydd hwn, a fydd yn caniatáu i ni ddarparu cymorth arbenigol i unigolion yn ardal Rhondda Cynon Taf.

“Galluogodd proses cyflym y fargen i ni sicrhau’r safle mewn arwerthiant, a’n rhoi mewn sefyllfa i ddechrau gwaith adnewyddu ar yr adeilad ar unwaith – sy’n golygu y bydd yn barod ar gyfer unigolion newydd yn fuan.”

Ymdriniwyd â’r fargen gan yr uwch swyddog buddsoddi Navid Falatoori a’r swyddog buddsoddi Sally Phillips yn y Banc Datblygu.

Mae’r cytundeb yn un o’r rhai cyntaf i gael ei chwblhau gan Sally, a ymunodd â Banc Datblygu Cymru ar ddechrau 2022.

Dywedodd Sally: “Rydym yn ffodus i fod wedi gweithio ochr yn ochr â’r tîm angerddol ac ymroddedig yn React, sy’n gweithio’n hynod o galed i ddarparu gwasanaeth unigryw mewn maes y mae galw mawr amdano, gan gefnogi unigolion a theuluoedd mewn amgylchiadau anodd.

“Mae gwasanaethau gofal ac iechyd yn rhan allweddol o economi sylfaenol Llywodraeth Cymru – ac o ystyried effaith y pandemig ar ddarparwyr gofal fel React, mae’n bwysicach fyth ein bod yn gallu eu cefnogi.

“Mae eu hanes o weithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ddarparu gofal arbenigol – a’u statws fel cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol – yn ein gwneud ni’n falch o fod wedi gweithio gyda nhw i gyflawni’r fargen hon.”

Aethant ati i ychwanegu: “ Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru (CBHC) gwerth £500m yn cynnig buddsoddiad ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, gyda chymysgedd o fenthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael.”