Cwmni technoleg ariannol blaenllaw yn y DU yn adleoli i Gaerdydd

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Ecwiti
Twf
Mentrau tech
Technoleg
IE Hub

Mae IE Hub, y ganolfan incwm a gwariant a ddefnyddir gan ddarparwyr gwasanaethau ariannol, cwmnïau cyfleustodau a defnyddwyr wedi adleoli i Gaerdydd ar ôl cwblhau rownd codi arian gwerth £1 miliwn a arweiniwyd gan syndicet o angylion busnes ac Angylion Buddsoddi Cymru.

Wedi'i sefydlu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, mae IE Hub yn offeryn ar-lein rhad ac am ddim sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gwblhau ffurflenni incwm a gwariant mewn modd cyfleus a di-straen. Mae'r platfform yn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth o'r wybodaeth y maent yn ei rhannu, gan symleiddio'r broses gyllidebu a dileu'r angen am sgyrsiau ffôn hir. Mae IE Hub hefyd yn cynnwys teclyn gwirio budd-daliadau sy'n galluogi cwsmeriaid i bennu cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau prawf modd a thariffau cymdeithasol dŵr, gan wella fforddiadwyedd a lles ariannol.

Wedi’i ddewis ar gyfer Tech Nation Fintech 3.0 ym mis Medi 2020, mae IE Hub wedi adleoli o Milton Keynes i Gaerdydd gyda chefnogaeth y prif fuddsoddwr Eamon Tuhami. Bydd y cyllid yn darparu cyfalaf gweithio i gyflymu twf gyda buddsoddiad pellach mewn technoleg, gweithrediadau a marchnata. Mae disgwyl i hyd at bedair swydd newydd gael eu creu.

Dywedodd y buddsoddwr arweiniol Eamon Tuhami: “Mae gallu IE Hub i helpu a grymuso defnyddwyr sy’n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd ariannol anodd wedi gwneud argraff fawr arnaf, ac ar yr un pryd yn darparu gwasanaeth hanfodol i gredydwyr. Mae'r cyfuniad perffaith hwn, sy'n gysylltiedig â photensial marchnad enfawr, yn eu gwneud yn FinGood yr wyf yn falch o'i gefnogi. “

Dywedodd Prif Weithredwr IE Hub, Dylan Jones: “Trwy gydol y rownd ariannu hon, mae wedi dod yn fwyfwy amlwg i’r buddsoddwyr newydd bod IE Hub yn dod â’r fath werth i ddefnyddwyr sy’n wynebu problemau dyled a chredydwyr sydd angen system i gefnogi sefyllfaoedd cwsmeriaid cymhleth. Mae gan ein buddsoddwyr empathi llwyr â’n cenhadaeth i gefnogi’r rhai sydd mewn dyled ac maent yn cyd-fynd â bod yn rhan o ateb unigryw i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol.

“Wrth gloi’r rownd hon, hoffwn ddiolch yn arbennig i’n buddsoddwyr presennol sydd wedi parhau i’n cefnogi ar y daith gyffrous hon, i Eamon Tuhami yn Hwyl Ventures am ei arweiniad gydag Angylion  Buddsoddi Cymru ac i’r Banc Datblygu am ddangos cefnogaeth aruthrol i’n pwrpas a’n twf yng Nghymru. Diolch hefyd i CMS Legal and Capital Law am eu cyngor.”

Tom Preene yw Rheolwr Gweithrediadau Angylion Buddsoddi Cymru. Dywedodd: “Mae IE Hub ar flaen y gad o ran arloesi technolegol ac felly’n gynnig deniadol i fuddsoddwyr sy’n cydnabod gwerth sut mae’r platfform hunan wasanaeth unigryw hwn yn helpu defnyddwyr i reoli eu dyled gyda chredydwyr tra’n darparu gwasanaethau ariannol i ddarparwyr gwasanaethau ariannol â datrysiad cadarn sy'n trin cwsmeriaid yn deg ac yn unol â gofynion rheoliadol. Fel rhwydwaith angylion mwyaf Cymru, rydym yn falch o gefnogi Eamon fel Prif Fuddsoddwr.”

Cafodd y buddsoddiad gan y syndicet o angylion arian cyfatebol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Gydag ecwiti a benthyciadau rhwng £25,000 a £250,000, mae’r gronfa £8 miliwn ar gael i syndicetiau o fuddsoddwyr sy’n ceisio cyd-fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Rheolir syndicetiau gan Fuddsoddwyr Arweiniol sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw gan Angylion Buddsoddi Cymru.