Cwrdd â Navid: Hoelio’r fargen

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
navid falatoori

Y Swyddog Buddsoddi, Navid Falatoori, yn egluro pam ei fod wedi symud at y Banc Datblygu Cymru

Siaradai ffrind i mi yn uchel ei barch am y Banc Datblygu Cymru bob amser. Roeddwn yn teimlo'n chwilfrydig am y sefydliad, felly pan ddaeth y siawns ym mis Ebrill 2016, neidiais ar y cyfle i ymuno â'r tîm Buddsoddiadau Newydd. Roedd yn benderfyniad anodd i adael fy nghyflogwr blaenorol. Roeddwn wedi gweithio yno ers 11 mlynedd, cefais gyfleoedd gwych a dysgu cymaint, ond roedd yr amser yn teimlo'n iawn i symud ymlaen ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

Yn fy rôl fel Swyddog Buddsoddi, rwy'n gweithio gydag ystod o fusnesau yng Nghymru gan helpu i strwythuro benthyciadau yn ogystal â bargeinion ecwiti. Rwy'n gweithio'n galed i adnabod busnesau sydd angen ein cefnogaeth ac mae gennyf ymreolaeth i wneud yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau bod pob bargen yn cael ei chyflawni. Mae'n deimlad gwych pan fyddwch chi'n gwybod eich bod chi'n helpu i yrru llwyddiant busnes a chefnogi ffyniant economaidd.

Mae cefnogaeth ac arweiniad cyson gan gydweithwyr uwch ond rwy'n gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth yn y ffaith fy mod yn cael y grym i gymryd cyfrifoldeb dros fy mhenderfyniadau fy hun. Fel rhywun sydd am symud ymlaen ac eisiau helpu busnesau Cymru i lwyddo, mae'n amgylchedd llawn cymhelliant a gwobrwyon. Ni fuaswn yn gallu gofyn am fwy mewn gwirionedd.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyfleoedd gyrfa cyfredol gyda'r banc datblygu trwy ymweld â https://bancdatblygucymru/gyrfaoedd