Gyrfaoedd

O weithio yn ein timau buddsoddi a phortffolio, i'n swyddogaethau cyllid a marchnata a thîm Cymorth i Brynu Cymru.

Wrth wraidd ein llwyddiant mae ein pobl. Fel y busnesau rydym yn gweithio â nhw, rydym yn gweld ein gweithwyr fel buddsoddiadau hirdymor. Rydym yn ceisio grymuso ein staff trwy'r amser i fod yn wneuthurwyr penderfyniadau ac rydym yn annog datblygiad personol a phroffesiynol yn gyson.

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyblyg gyda swyddfeydd ledled Cymru.

Buddion a gwobrwyon

Byddwn bob amser yn cydnabod ac yn gwobrwyo eich gwaith caled a’ch llwyddiant. Rydym yn cynnig:

  • Gweithio hyblyg
  • Cyflog cystadleuol
  • Cynllun bonws dewisol
  • Cynllun pensiwn cyfrannol – cyfraniad cyflogwr o hyd at 10%
  • 30 diwrnod o wyliau
  • Cynllun gofal iechyd preifat BUPA (cyfrannol)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Parcio am ddim
  • Cynllun benthyca i weithwyr
  • Cyfleoedd dilyniant gyrfa
  • Dysgu a datblygu
  • Gweithgareddau lles

Mae Banc Datblygu Cymru yn sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac wedi ennill Gwobr Arian gan Chwarae Teg am fod yn ‘gyflogwr chwarae teg’. Mae hyn yn rhoi manteision gweithlu gwirioneddol gytbwys i chi. 

Mae BDC yn recriwtio, cyflogi, hyfforddi a hyrwyddo waeth beth fo' hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhyw, anabledd, oedran, hunaniaeth rhyw a / neu fynegiant, neu unrhyw statws gwarchodedig arall. Mae BDC yn ymroddedig i feithrin amgylchedd cynhwysol lle gall gweithwyr fod yn nhw eu hunain yn gyfan gwbl yn y gweithle. Rydyn ni'n dathlu amrywiaeth o ran meddylfryd ac yn cydnabod y cryfder a'r ddeinameg sy'n dod law yn llaw â hynny.

Canfyddwch fwy am weithio ym Manc Datblygu Cymru yn ein strategaeth pobl.

Diddordeb mewn ymuno â Banc Datblygu Cymru? Cofrestrwch yma i dderbyn hysbysiadau e-bost pan ychwanegir swyddi gwag newydd.


Gweler ynghlwm ein Polisi Preifatrwydd Recriwtio

Cyflogwr o ddewis

Rydym yn monitro arfer gorau’r diwydiant yn barhaus er mwyn i ni allu cyflawni rhagoriaeth tra’n cynnig hyblygrwydd a chydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith i’n cydweithwyr:

  • Cynigir pecyn cyflog a buddion cystadleuol
  • Darperir gofodau swyddfa ac amgylchedd gwaith sy'n hyrwyddo gweithio'n ddoethach
  • Anogir ein cydweithwyr i fabwysiadu patrwm gweithio sy’n cyd-fynd â’u hamgylchiadau personol yn ogystal ag anghenion busnes

Rydym yn hyrwyddo gweithle cyfartal ac amrywiol ac yn rhoi strategaethau ar waith yn barhaus i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn cyflawni hyn:

  • Cyflawni rhaglen llesiant uchelgeisiol bob blwyddyn wedi’i thargedu at les corfforol a meddyliol
  • Ennill achrediad safon aur gyda Chwarae Teg a cheisio achrediad gyda Stonewall a'r Safon Iechyd Corfforaethol
  • Defnyddiwn gyfweliadau ymadael er mwyn cael adborth a gwella'n barhaus
  • Gweithredu ar adborth o arolygon staff blynyddol ac adborth arall trwy gydol y flwyddyn
  • Adolygu ystadegau perfformiad yn barhaus a gweithredu lle bo'n briodol

Rydym yn cyflwyno strategaeth llesiant bwrpasol sy’n cefnogi llesiant meddyliol, corfforol ac ariannol ein cydweithwyr:

  • Alinir ein hamcanion â’n nodau busnes a chydnabod perfformiad gwych
  • Rydym yn buddsoddi yn natblygiad ein cydweithwyr trwy ddarparu ystod o gyfleoedd hyfforddi i ddiwallu anghenion unigolion, tîm a busnes
  • Cyflwyno’r fframwaith dilyniant gyrfa gan roi cyfle strwythuredig i symud ymlaen â phob rhan o’r busnes

Pobl yw ein hased mwyaf ac mae’n hanfodol i’n llwyddiant hirdymor:

  • Cyflawni gweithio doethach a thrawsnewid digidol, gan fesur yr effaith ar foddhad swydd a chynhyrchiant
  • Cynnal gweithdai arloesi rheolaidd ac annog prosiectau ystwyth trwy ein mentrau prosiect
  • Hyrwyddo diwylliant cynhwysol trwy gylchlythyrau a chyfathrebu rheolaidd a dull cydweithredol o gasglu a defnyddio adborth o bob rhan o Grŵp y Banc Datblygu
  • Awn ati yn weithredol i geisio adborth gan ein cydweithwyr, yn enwedig yn y digwyddiadau hanner blwyddyn a blynyddol

 

Bywyd gyda Banc Datblygu Cymru

Dewch i wybod mwy am weithio yma yn y banc datblygu. Darllenwch y blogiau gwych yma gan y staff.

Chris Hayward

Claire Sedgwick

Stewart Williams

Ein swyddfeydd