Cwrt bwyd newydd ar gyfer lleoliad poblogaidd Bae Caerdydd yn cael cefnogaeth y Banc Datblygu

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Tiger Yard

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi buddsoddiad gan y brand digwyddiadau Cymreig blaenllaw Depot trwy ei arwain i safle o bwys ym Mae Caerdydd, gan drawsnewid hen safler Doctor Who Experience ger Porth y Rhath yn gwrt bwyd ac yn lleoliad hamdden newydd.

Buddsoddodd y Banc Datblygu fuddsoddiad chwe ffigur o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru i adnewyddu ac ail wampio’r safle, gyda Depot hefyd yn gwneud buddsoddiad mawr yn y gwaith o ail ddatblygu’r safle.

Mae’r Tiger Yard newydd yn cynnwys 25 o gynwysyddion pwrpasol sy’n cynnal bariau a cheginau, ynghyd â lle i gyfanswm o 1,000 o ymwelwyr – gan gynnwys tair ardal fwyta dan do.

Bydd y safle newydd yn cyd-fynd ag adeilad presennol Depot ar Curran Embankment, gofod digwyddiadau hyblyg mewn warws sy'n cynnal lleoliadau bwyd a diod dros dro.

Yn ogystal â chynnal digwyddiadau ar eu safleoedd sefydlog, mae Depot hefyd yn cynnal Bingo Lingo poblogaidd a digwyddiadau corfforaethol eraill ar gyfer partneriaid mawr ledled Cymru.

Dywedodd Nicholas Saunders, Cyfarwyddwr Depot: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i agor a lansio'r safle newydd. Rydym wedi cael rhai llwyddiannau gwirioneddol gyda'n safle ar Curran Embankment ac wedi gallu cynnal digwyddiadau ar gyfer rhai cleientiaid hynod gyffrous, ac edrychwn ymlaen at allu gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol yn Tiger Yard.

“Roedd cael y buddsoddiad hwn gan y Banc Datblygu yn golygu y gallem ddechrau gwaith adnewyddu yn gyflym, a oedd yn ei dro yn golygu y gallem sefydlu popeth ar gyfer deiliaid gofodau cyn gynted â phosibl.”

Dywedodd Kelly Jones, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym mor falch o fod wedi cefnogi Depot gyda hyn. Maen nhw'n chwaraewr cryf iawn yn y byd digwyddiadau yng Nghaerdydd ac mae ganddyn nhw broffil gwych fel busnes. Rydym yn falch o fod wedi eu cefnogi ar eu taith dwf ac edrychwn ymlaen at weld beth fydda’ nhw’n mynd ati i’w wneud nesaf.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn cynnig buddsoddiad ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, gyda benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiad ecwiti ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i weld safle  www.bancdatblygu.cymru.