Cyllid o £2 filiwn ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru

Nicola-Edwards
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
landsker and wcva logos

Penodwyd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Landsker Business Solutions gan Fanc Datblygu Cymru i gyflawni £2 filiwn o gyllid sydd wedi'i neilltuo ar gyfer mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Daw'r cyllid o Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. O'r gronfa hon o £16.2 miliwn mae'r Banc Datblygu yn dyblu'r swm yn benodol ar gyfer busnesau menter gymdeithasol a fydd yn gallu gwneud cais am fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 gyda thelerau ad-dalu o hyd at ddeng mlynedd.

Dywedodd Nicola Edwards, Rheolwr y Gronfa Micro  Fenthyciadau ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Cymru wedi’i hadeiladu ar economi o fusnesau bach i ganolig sydd yn aml yn gweithredu ar lefel llawr gwlad, gan gadw cymunedau’n ffynnu.

“Mae cynyddu swm y cyllid pwrpasol ar gyfer mentrau cymdeithasol yn sicrhau ein bod yn cefnogi’r rhai sy’n canolbwyntio’n llwyr ar roi yn ôl i’w cymuned a’u hamgylchedd. Rydym yn falch o barhau â'n partneriaeth â CGGC a chyhoeddi ein partneriaeth newydd gyda'r arbenigwyr sector Landsker Business Solutions i gyflawni'r arian yn llwyddiannus."

Dywedodd y Gweinidog Economi, Ken Skates: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi mentrau cymdeithasol ac yn cydnabod yn llawn eu pwysigrwydd i’n heconomi a gwead cymdeithasol Cymru.

“Fel Llywodraeth byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda busnesau cymdeithasol i’w helpu i gynnal, ffynnu a thyfu ac mae cyhoeddiad heddiw yn dyst i hynny. Mae gan Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru Banc Datblygu rôl bwysig i'w chwarae wrth gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y sector a darparu'r gefnogaeth bwysig sydd ei hangen.

“Trwy ddyblu’r swm sydd ar gael, rydyn ni’n dangos yn glir pa mor arwyddocaol yw mentrau cymdeithasol i’w hardaloedd lleol yn ein tyb ni wrth ddarparu swyddi a chyfleoedd.”

Dywedodd Alun Jones, Pennaeth Buddsoddi Cymdeithasol Cymru o CGGC: “Ar ôl bod yn rhan o gyflawni’r gronfa ers ei sefydlu, rydym yn gwybod pa mor llwyddiannus y bu wrth ddarparu cyllid mawr ei angen i fentrau cymdeithasol ledled Cymru.

“Cafwyd rhai enghreifftiau gwirioneddol wych o effaith gymdeithasol sylweddol yn cael ei chyflawni gan amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n mynd i’r afael â hyn. Edrychwn ymlaen at weld yr holl waith da hwnnw'n digwydd eto gydag ystod newydd o bobl yn dod ymlaen o fusnesau newydd i fentrau hir sefydlog.”

Wrth sôn am y cynnydd yn yr arian sydd ar gael i fentrau cymdeithasol, dywedodd Jeremy Bowen Rees, Landsker Business Solutions: “Bydd y codiad yn lefel y cyllid a roddir i’r trydydd sector trwy Fanc Datblygu Cymru yn hanfodol bwysig i helpu’r sefydliadau hyn i dyfu a ffynnu.

“Mae mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn dangos pwysigrwydd y trydydd sector i economi Cymru. Ers ei sefydlu yn 2000, mae Landsker wedi cefnogi dros 1,100 o gleientiaid (gan gynnwys cannoedd o fentrau cymdeithasol), wedi cyrchu dros £120 miliwn o gyllid ac wedi cynhyrchu oddeutu 3,200 o swyddi.”