Cyllid ychwanegol ar gyfer doopoll wrth i’r llwyfan gael mwy na 250,000 o bleidleisiau

Sarah-Smith
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
doopoll

Mae doopoll, cwmni meddalwedd pleidleisio yng Nghaerdydd, wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru.

Yn ddiweddar, prosesodd doopoll, llwyfan pleidleisio ar-lein a ddefnyddir gan gwmnïau fel O2, Undeb Rygbi Cymru, Admiral a Thŷ Hafan, ei 250,000 pleidlais - carreg filltir bwysig i’r cwmni sydd hefyd yn ddiweddar wedi penodi un o’i gyd-sylfaenwyr, Marc Thomas fel ei Brif Weithredwr cyntaf.

Fel rhan o gynllun twf strategol, mae ei gyd-sylfaenwyr Steve Dimmick a Sam Goudie hefyd wedi symud i swyddi newydd. Mae Steve yn Brif Swyddog Masnachol ac mae Sam yn Brif Swyddog Cynnyrch.

Meddai Marc Thomas, Prif Weithredwr: “Mae hwn yn amser cyffrous dros ben i ni fel cwmni, i weithio gyda chleientiaid fel O2, Llywodraeth Cymru ac Admiral.

“Mae’r her o redeg busnes sy’n tyfu’n gyflym fel doopoll yn hynod o gyffrous. Mae gennym dîm gwych ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cwmni yn ogystal â sicrhau llwyddiant ar gyfer ein sylfaen cwsmeriaid cynyddol."

Mae llwyfan doopoll yn caniatáu i ddefnyddwyr greu system bleidleisio syml a diddorol. Caiff y rhain eu rhannu mewn ymgyrchoedd cyfathrebu, mewn digwyddiadau, ar y cyfryngau cymdeithasol a nifer o lefydd eraill. Mae canran ymgysylltu ar gyfartaledd ar gyfer cwmnïau sy’n defnyddio’r systemau pleidleisio yn fwy na 70% - sy’n llawer uwch na chyfartaledd y farchnad.

Meddai Sarah Smith, Swyddog Buddsoddi Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Marc a’r tîm ers ein buddsoddiad cyntaf yn Ebrill 2016.

“Mae eu cynnyrch a’u llwyfan wedi bod yn arloesol a diddorol ac maent wedi llwyddo i ddenu cleientiaid blaenllaw fel 02. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac mae cynllun twf gwych ar gyfer y dyfodol, gyda’r apwyntiad diweddar hwn yn rhan ohono. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt ddatblygu ac ehangu.”

Derbyniodd doopoll y buddsoddiad chwe ffigur cyntaf  gan Fanc Datblygu Cymru a’r buddsoddwr annibynnol Konrad Litwin yn Ebrill 2016. Yn ddiweddar derbyniwyd buddsoddiad ychwanegol gan y banc datblygu. Daeth cyllid ar gyfer y ddwy ddêl o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru.

Mae’r cwmni wrthi’n recriwtio ar gyfer tri aelod newydd o staff, fydd yn gweithio rhwng eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Dorset.