Cyn-ddisgybl cyflymydd seiber GCHQ BlackDice yn sicrhau cyllid sbarduno o £500,000

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan BlackDice.

Mae BlackDice, yn cyhoeddi £500,000 o gyllid sbarduno ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru a nifer o fuddsoddwyr preifat, a fydd yn cyflymu eu twf rhyngwladol.

Ac yntau’n gyn ddisgybl i Gyflymydd NCSC GCHQ, mae BlackDice yn darparu meddalwedd dysgu peiriannau ar gyfer rheoli dyfeisiau a seiber ddiogelwch, wedi'i integreiddio i lwybryddion gweithredwyr telathrebu a phyrth.

Ar ôl graddio’n llwyddiannus o’r cyflymydd hynod o gystadleuol ym mis Mehefin 2019, mae BlackDice wedi sicrhau ei bartneriaeth ryngwladol gyntaf ac wedi denu consortiwm buddsoddi sy’n gweld potensial enfawr busnes Meddalwedd fel Gwasanaeth seiber ddiogelwch.

Dywedodd Paul Hague, Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd BlackDice:

“Mae gennym gyfle i helpu gweithredwyr i adeiladu ymddiriedaeth rhyngddynt hwy a'u cwsmeriaid. Gan sicrhau bod rhwydweithiau a dyfeisiau yn parhau i fod yn barod ar gyfer y cynnydd mewn arwynebau ymosod a soffistigedigrwydd cynyddol ymosodiadau posibl, diolch i'r buddsoddiad hwn gan y Banc Datblygu, bydd BlackDice yn hyrwyddo ein technoleg ac yn ehangu'r busnes.”

Sefydlwyd BlackDice gan Paul Hague a Paul Jenkins pan ddarganfu Paul Hague fod aelod agos o’r teulu yn profi heriau iechyd meddwl difrifol oherwydd seiber fwlio. Mae'r cwmni bellach yn cynnig datrysiad diogelwch cyflawn sy'n monitro ymddygiad dyfeisiau a bygythiad amser real yn gyson i rymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u seiber ddiogelwch eu hunain yn ôl.

Nod Banc Datblygu Cymru yw datgloi potensial economaidd yng Nghymru a gwella'r economi leol trwy ddarparu cyllid cynaliadwy, effeithiol. I ddechrau, daeth Banc Datblygu Cymru ar draws Paul a BlackDice mewn Cyflymydd IoT y gwnaethom ei gefnogi ochr yn ochr â Barclays Eagle Labs, Inspire Wales a White Horse Capital.

Dywedodd Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg a arweiniodd y fargen ar gyfer y Banc Datblygu:

“Mae gan Paul dîm trawiadol yn gweithio gydag o. Mae eu technoleg ar flaen y gad yn y farchnad hon sy'n datblygu amgylcheddau ar-lein mwy diogel. Rydym yn falch iawn o'u cefnogi ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r rheolwyr wrth iddynt gyflymu eu twf.”

Mae technoleg BlackDice yn lleihau corddi yn sylweddol, yn gostwng costau gweithredol, ac yn cynyddu refeniw fesul tanysgrifiwr ar gyfer cwmnïau telathrebu - amddiffyn rhwydweithiau a dyfeisiau rhag ymosodiadau seiber ddiogelwch, monitro ymddygiad dyfeisiau, adnabod dyfeisiau ac olion bysedd, asesu bregusrwydd amser real a datrysiadau hidlo gan gynnwys DNS dros https.

Bydd Paul Hague ac aelodau eraill o dîm BlackDice yn mynychu Fforwm Band Eang y Byd rhwng Hydref 15-17eg yn Amsterdam. Cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod.