Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
giles and ken sitting

Cyhoeddwyd y ffigurau terfynol gan Fanc Datblygu Cymru heddiw ar gyfer Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru. Roedd y gronfa'n rhan o Gronfa Cadernid Economaidd ehangach Llywodraeth Cymru gwerth £500 miliwn ac yn darparu cyfalaf gweithio i fusnesau sy'n profi anawsterau gyda llif arian o ganlyniad i'r pandemig.

Ar 30 Gorffennaf, manteisiodd cyfanswm o 1,331 o fusnesau ar gyfleusterau benthyciad o ychydig dros £92 miliwn gan helpu i ddiogelu dros 16,000 o swyddi. 

Roedd y benthyciad cyfartalog i fusnesau a fanteisiodd ar Gynllun Benthyciad Busnes Covid 19 Cymru yn £68,913 gyda'r meysydd adeiladu, gweithgynhyrchu, manwerthu a lletygarwch yn cyfrif am bron i hanner y benthyciadau a ddyfarnwyd. Roedd dosbarthiad daearyddol da ymhlith y nifer a gafodd fenthyciad gyda 399 o gwmnïau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, 334 yn y Gogledd a 598 yn y De.

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i fusnesau bach ledled Cymru sydd wedi wynebu heriau enfawr o ran goroesi’r cyfnod hwn, amddiffyn bywoliaeth pobl a diogelu eu swyddi. Mae'r galw mawr am yr holl gynlluniau benthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth, gan gynnwys ein Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 ni, yn dangos yr angen am gymorth gyda llif arian.

“Wrth i ni gymryd camau i ailagor yr economi rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gymuned busnesau bach a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill wrth i ni ymdrin â’n hadferiad economaidd a mynd i’r afael â’r her o helpu busnesau ledled Cymru i ailgychwyn ac adfer.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae Banc Datblygu Cymru wedi chwarae rhan hanfodol o ran ein helpu i ymdopi â’r pwysau digynsail y mae'r coronafeirws wedi’i roi ar ein heconomi.

“Mae Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru wedi gweld staff yn gweithio’n ddiflino ochr yn ochr â ni i ddarparu achubiaeth hanfodol i fusnesau a hynny'n gyflym, yn effeithlon a hyblyg, gan ddarparu ychydig dros £92 miliwn i oddeutu 1300 o fusnesau yng Nghymru a diogelu miloedd o swyddi.

“Mae'r Banc eisoes wedi ychwanegu gwerth mawr at y dirwedd fusnes fywiog yr ydym yn ei meithrin yma yng Nghymru, a bydd hynny'n bwysicach nag erioed wrth i ni ailgodi'n gryfach yn dilyn effaith y pandemig a pharhau â'n gwaith i sbarduno twf cynhwysol ledled Cymru.”

 

Rhanbarth ac awdurdod unedol

Nifer y cwmnïau

 Swm £'000

Canolbarth a Gorllewin Cymru

399

27,248,900

Sir Gaerfyrddin

101

7,008,650

Ceredigion

32

2,018,000

Castell-nedd Port Talbot

40

3,204,500

Sir Benfro

80

5,466,000

Powys

53

3,184,200

Abertawe

93

6,367,550

Gogledd Cymru

334

21,219,300

Conwy

104

5,798,500

Sir Ddinbych

47

3,062,500

Sir y Fflint

46

3,865,500

Gwynedd

56

3,452,000

Ynys Môn

40

2,441,300

Wrecsam

41

2,599,500

De Cymru

598

43,539,214

Blaenau Gwent

11

969,000

Pen-y-bont ar Ogwr

51

4,655,750

Caerffili

63

4,087,500

Caerdydd

202

14,590,665

Merthyr Tudful

19

1,223,750

Sir Fynwy

41

2,496,500

Casnewydd

49

3,757,000

Rhondda Cynon Taf

66

6,028,000

Bro Morgannwg

65

3,506,949

Torfaen

31

2,224,100

Cyfanswm

1331

92,007,414