Cynllun Hunan Adeiladu arloesol newydd

Emma-Phillips
Rheolwr Gweithrediadau Hunan Adeiladu Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Capital Law.

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd Cymru yn lansio cronfa newydd yn galluogi pobl, gan gynnwys y rhai sy'n ei chael hi'n anodd i gael troed ar yr ysgol eiddo, i ariannu’r gwaith o adeiladu eu cartref newydd.

Nod y cynllun £40 miliwn, o'r enw Hunan Adeiladu Cymru, yw arallgyfeirio'r farchnad dai trwy wneud hunan-adeiladu ac adeiladu i ddiwallu anghenion pwrpasol yn fwy cyraeddadwy. Mae Capital Law yn falch o gael ei ddewis i ddarparu cefnogaeth gyfreithiol i'r bartneriaeth flaenllaw, arloesol hon rhwng Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Bydd y Banc Datblygu yn ariannu'r cynllun ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am sicrhau bod cyfres o leiniau o dir â gwasanaeth yn barod i'w datblygu ac ar gael i'w prynu. Bydd y cyhoedd yn gallu gwneud cais i brynu lleiniau, a bydd y Banc Datblygu yn cynnig benthyciadau i ariannu prynu a datblygu plotiau'r cartrefi newydd. Bydd y benthyciadau'n cael eu had-dalu unwaith y bydd yr adeiladu wedi'i gwblhau a'r eiddo wedi'i forgeisio.

Bydd pob un o’r darpar berchnogion tai yn dewis eu contractwr adeiladu eu hunain, a bydd eu cartref newydd yn cael ei adeiladu yn unol â set o ddyluniadau pwrpasol a gytunwyd ymlaen llaw ac a gymeradwywyd ymlaen llaw o Ganllaw Dylunio unigryw’r cynllun.

Mae Banc Datblygu Cymru wedi sicrhau diddordeb gan awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru, a fydd yn sicrhau bod y cynllun yn gronfa wirioneddol gynhwysol ar gyfer perchnogion tai eiddgar ledled y wlad.

Mae ein timau Bancio a Chyllid, Adeiladu, Gwasanaethau Ariannol a Masnachol wedi ymuno i gyflawni'r arweiniad arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer sefydlu cynllun o'r fath, a byddant yn parhau i wneud hynny ar ôl ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni.

Mae Christopher Agius yn arwain ein tîm Bancio a Chyllid, sy'n cynnwys arbenigwyr cyllid corfforaethol, eiddo a datblygu. Mae wedi bod yn arwain y broses dendro cyn ei benodi, ac yn rheoli prosiect cyflawni'r gwahanol elfennau o gyngor sydd eu hangen ar Fanc Datblygu Cymru i gyflawni'r cynllun. Meddai:

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Hunan Adeiladu Cymru, a fydd nid yn unig yn democrateiddio hunan-adeiladu ac yn arallgyfeirio tai ond hefyd yn darparu cyfleoedd newydd i fusnesau adeiladu bach.

“Mae cynorthwyo Banc Datblygu Cymru ar brosiect mor arloesol wedi bod yn gyffrous iawn. Trwy gyfuno arbenigedd ein cyfreithwyr ar draws gwahanol dimau, rydym wedi gallu darparu gwasanaeth wedi'i deilwra gan gynnwys cynhyrchu dogfennaeth ddiogelwch ac adeiladu, cyngor rheoliadol allweddol a chanllawiau Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) cyfoes.”

Dywedodd Emma Phillips, Rheolwr Gweithrediadau Hunan Adeiladu Cymru:

“Mae hwn yn gynllun newydd ac uchelgeisiol sydd wedi'i gynllunio i wneud hunan-adeiladu yn fforddiadwy ac yn hygyrch i ystod ehangach o bobl trwy gael gwared ar rai o'r rhwystrau sy'n ymwneud â chyllid, cynllunio a rheoli prosiectau.

Mae cael y tîm o'r radd flaenaf yn ei le i ddarparu cyngor cyfreithiol wedi bod yn hanfodol wrth i ni weithio tuag at lansio, ac rydym yn falch ein bod wedi penodi Capital Law sydd wedi bod yn ddiwyd gyda'u cefnogaeth. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r bartneriaeth wrth i ni symud i'r cam cyflawni a chefnogi cymaint o bobl â phosibl i adeiladu cartref i weddu i'w hanghenion.”