Cynnydd mewn busnesau newydd wrth i fentergarwyr ddilyn eu breuddwydion yn ystod y cyfnod clo

Nicola-Edwards
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
holyhead shellfish

O chauffeurs i wneuthurwyr canhwyllau, nid yw pandemig Covid-19 wedi diffodd fflam mentergarwyr yng Nghymru ac mae’r ffordd newydd o fyw wedi ysbrydoli’r nifer uchaf erioed i ddechrau eu busnes 'ffordd o fyw' eu hunain yn 2020.

Mae ffigurau a ryddhawyd gan Fanc Datblygu Cymru heddiw, 5 Mawrth 2021, yn dangos bod micro-fenthyciadau o hyd at £50,000 gwerth cyfanswm o bron i £1.8 miliwn wedi'u dyfarnu i fusnesau newydd yn 2020 o gymharu â £1.1 miliwn yn 2019. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 60%, roedd gwerth y fargen ar gyfartaledd yn £23,000 ar draws 77 o fuddsoddiadau sy'n golygu bod nifer fawr o fentergarwyr wedi bachu ar y cyfle i ddilyn eu breuddwydion hir sefydlog, cydio yn yr awenau neu fyw mewn ffordd wahanol.

Gyda nifer sylweddol o fusnesau yn chwilio am gyllid cychwynnol, mae'r ystadegau gan y Banc Datblygu yn gyson ag adroddiadau ehangach ledled y DU. Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Ganolfan Mentergarwyr a Thŷ'r Cwmnïau wedi datgelu cynnydd yng nghofrestriad busnesau newydd o bob maint er 2014 gyda ffurfiannau busnes wedi cyrraedd record newydd o 772,002 yn 2020, gan dyfu 13.25% ers 2019.

Dywedodd y perchennog a’r sylfaenydd Melanie Smith: “Rydw i wedi bod yn fam sy'n aros gartref ers blynyddoedd lawer, am gyfnod hwy na’r oeddwn i wedi ei ragweld wedi i mi gael plentyn sydd gan anghenion ychwanegol, ac roeddwn eisiau dechrau mynd yn ôl i’r gwaith. Fodd bynnag, roedd dychwelyd i'r farchnad swyddi yn profi i fod yn anodd wedi i mi allan ohoni ers cymaint o flynyddoedd, er bod gen i lawer o sgiliau a phrofiad. Roeddwn i wastad wedi bod eisiau bod yn fos arnaf fi fy hun a thorri fy nghwys fy hun ac felly penderfynais droi yr hobi ‘rydw i wrth fy modd yn ei wneud yn fusnes.


“Gwnaeth y benthyciad gan y Banc Datblygu wireddu’r freuddwyd honno trwy fy helpu i roi'r gosodiadau pwrpasol yn fy siop a phrynu stoc hanfodol. Roedd y broses o wneud cais yn hawdd hefyd - ffurflen ar-lein syml. Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd am gymryd y naid o sefydlu eu busnes eu hunain i siarad â'r Banc Datblygu.”


Dechreuodd Carl Harris o Gasnewydd ei fusnes chauffeur preifat ei hun yn ystod y pandemig. Wedi iddo wynebu cael ei ddiswyddo, defnyddiodd y cyfle i droi ei brofiad a'i angerdd yn fusnes ei hun. Roedd cefnogaeth gan Busnes Cymru, y Banc Datblygu a Chyngor Dinas Casnewydd yn golygu ei fod wedi gallu dod o hyd i gyllid a sefydlu Luxstar Limited yn llwyddiannus ym mis Tachwedd 2020.
Dywedodd Carl Harris: “O'r adeg pan oeddwn i'n 12 oed ymlaen, roeddwn i wastad wedi gweithio i gael bywoliaeth a 'doedd Covid ddim yn mynd i newid hynny! Ar ôl cael fy niswyddo ym mis Medi 2020, penderfynais achub ar y cyfle i droi fy angerdd am yrru cerbydau a chynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn fenter busnes.


“Yr ethos y tu ôl i Luxstar yw bod pob taith yn brofiad cofiadwy a diogel, ac mae'n cael ei gynnig mewn modd hamddenol a phroffesiynol. Mae'r help a'r gefnogaeth gan Busnes Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a'r Banc Datblygu wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf; o'r cynllun busnes cychwynnol hyd at sicrhau'r trwyddedau gweithredu cywir a sefydlu gwefan newydd. Gall dechrau busnes newydd fod yn heriol ond mae'n anhygoel faint o gefnogaeth sydd ar gael. Mewn gwirionedd, mae'r gefnogaeth gan y Banc Datblygu wedi newid fy mywyd am byth.”
Ar Ynys Môn, mae feteran y Llynges Frenhinol, Sion Riley, yn byw ei freuddwyd ar ôl lansio Holyhead Shellfish ym mis Gorffennaf 2020. Gyda micro fenthyciad cychwynnol gan y Banc Datblygu a chefnogaeth Môn CF a Busnes Cymru, cydiodd y dyn 30 oed hwn yn awennau cwch pysgota'r Pan Arctig.


Dywed Sion nad yw’r galw am fwyd môr Cymreig lleol wedi edwino, er gwaethaf y pandemig: “Mae gweithio ar y môr, pysgota, ac yn fy nghymuned leol wedi bod yn freuddwyd i mi erioed. Ni fyddai unrhyw beth, ddim hyd yn oed pandemig yn fy rhwystro i. Nid oes unrhyw her yn ddigon mawr i fy atal rhag gwireddu fy mreuddwydion. Mae fy uchelgais wedi cael ei wobrwyo gan alw mawr gan fwytai a chyfanwerthwyr lleol. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yn hyn.”

Dywedodd Nicola Edwards, Rheolwr Cronfa Micro Fenthyciadau Banc Datblygu Cymru: “Bu’n 12 mis anhygoel o heriol ond nid yw Covid wedi tynnu'r gwynt o hwyliau ein mentergarwyr yma yng Nghymru. Mewn gwirionedd, gyda chynnydd o dros 60% yn nifer y micro fenthyciadau sydd wedi cael eu dyfarnu i fusnesau newydd, rydym wedi gweld ymchwydd yn y nifer o ymholiadau gan fusnesau newydd gyda'r sectorau bwyd a diod, manwerthu ar-lein ac adeiladu yn perfformio'n arbennig o dda gyda phobl yn dilyn eu breuddwydion a cheisio manteisio ar y newid mewn ffordd o fyw .

“Yn y Banc Datblygu, rydym yn gallu trefnu benthyciadau cychwynnol o gyn lleied â £1,000 sy’n gallu bod yn help enfawr i rywun sydd am sefydlu busnes am y tro cyntaf. Gall micro fenthyciad fynd yn bell mewn gwirionedd ond o'i gyfuno gydag ymdrechion ein tîm, a gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a phartneriaid fel Busnes Cymru gwneir gwir wahaniaeth oherwydd gyda'n gilydd gallwn helpu i wireddu breuddwydion busnes.”

Dywedodd yr Athro Max Munday, Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd: “Er ein bod wedi tueddu i ganolbwyntio ar y bygythiadau economaidd sy’n deillio o Covid-19 mae’n bwysig iawn ystyried sut mae’r amodau masnachu gwael wedi arwain at achosion arloesi newydd ymhlith mentergarwyr Cymru. Mae cyfeirio cefnogaeth at fusnesau newydd arloesol yn holl bwysig a bydd yn un o'r mecanweithiau a fydd yn penderfynu pa mor gryf y daw Cymru allan o'r pandemig.”

Gall Banc Datblygu Cymru drefnu micro fenthyciadau o £1,000 hyd at £50,000 i helpu gyda chostau cychwynnol i fusnesau Cymru. I weld a ydych chi'n gymwys i wneud cais, ewch i weld https://developmentbank.wales/cy/cael-cyllid-busnes/dechrau-busnes.