Datblygu Cymru yn ennill gwobr fawreddog

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Property of the Year 2022

Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o gael ei enwi’n Ariannwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Eiddo Insider Cymru 2022.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, buddsoddodd ein tîm eiddo £44m mewn cynlluniau datblygu amrywiol ledled Cymru gan gynnwys cartrefi newydd yn Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd, datblygiad Bryn Gobaith yn Llanelwy, Sir Ddinbych a Iard Picton yn Abertawe - gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiadau eiddo a wnaed dros y degawd diwethaf i £199m.

Yn ogystal, rydym wedi cynorthwyo 119 o gwmnïau ar draws 172 o ddatblygiadau, gan ddarparu mwy na 1,800 o gartrefi newydd yng Nghymru , tra bod cyfanswm o 44,546 troedfedd sgwâr o ofod masnachol wedi’i wneud yn bosibl drwy fenthyciadau gan ein cwmni Cronfa Eiddo Masnachol Cymru.

Ar ôl ennill Ariannwr y Flwyddyn yn 2020, mae’r Banc Datblygu wedi parhau i addasu i’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r diwydiant, megis effeithiau Brexit a’r aflonyddwch a achosir gan y pandemig.

Dywedodd Nicola Crocker, Rheolwr y Gronfa: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill gwobr Ariannwr y Flwyddyn yn y cyfnod ansicr parhaus hwn i ddatblygwyr.

“Mae’r tîm wedi cefnogi prosiectau preswyl, masnachol a defnydd cymysg drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn ymfalchïo yn y perthnasoedd rydym yn eu meithrin sy’n ein helpu i aros yn agos at ein datblygwyr a goresgyn unrhyw rwystrau gyda’n gilydd.

“Dymunwn ddiolch yn fawr iawn i’n cwsmeriaid yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol a’n rhwydwaith proffesiynol sy’n ein cefnogi.”

Drwy gydol y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygwyr gyda chau safleoedd, oedi yn y rhaglen a chostau cynyddol sy’n gysylltiedig â’r pandemig drwy chwistrellu cyllid ychwanegol ac ymestyn telerau benthyca.

Gyda chyfanswm o £60m wedi’i gymeradwyo ar gyfer prosiectau datblygu eiddo, mae  hyn ynn amlygu ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau â’n cefnogaeth weithredol i ddatblygwyr er gwaethaf yr heriau presennol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Eiddo, Cenydd Rowlands: “Rwy’n falch iawn o weld bod gwaith gwych ein tîm eiddo yn parhau i gael ei gydnabod o fewn y diwydiant drwy’r wobr fawreddog hon.

“Rydym wedi gwneud ein cenhadaeth i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae datblygwyr BBaChau yn eu hwynebu wrth sicrhau cyllid addas ar gyfer eu prosiectau yng Nghymru ac rydym yn cymryd cam yn nes at gyflawni hyn bob blwyddyn.

“Mae’r cysylltiadau agos sydd gennym gyda’n datblygwyr yn hanfodol i’r llwyddiant hwn a bydd ond yn dod yn bwysicach wrth inni geisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r farchnad.”

Daeth y Banc Datblygu i’r brig er gwaethaf cystadleuaeth gref gan gwmnïau uchel eu parch fel Assetz Capital, Principality Commercial a Hodge, a oedd hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr.

Ac yntau wedi ymrwymo i fusnes cynaliadwy a'r newid i sero net, mae'r Banc Datblygu am gefnogi datblygwyr eiddo i wneud y newid i arferion datblygu gwyrddach.

I gefnogi hyn, lansiwyd y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd ym mis Gorffennaf, gan roi datblygwyr y gallu i fanteisio ar gostau benthyca is ar gynlluniau tai gwyrdd newydd.

Y nod yw helpu datblygwyr i ddarparu cartrefi mwy effeithlon o ran thermol a charbon is yng Nghymru, gyda gostyngiad o hyd at 2% mewn ffioedd benthyciad i ddatblygwyr preswyl sy'n bodloni safonau gwyrdd.