Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

 

 

 

Cymhelliant Datblygu Gwyrdd

Mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i fusnes cynaliadwy a’r newid i sero net ac mae am gefnogi datblygwyr i wneud y newid i arferion datblygu gwyrddach.

Rydym yn cynnig gostyngiad o hyd at 2% ar ffioedd benthyciad datblygu preswyl os caiff yr holl feini prawf gwyrdd canlynol eu hymgorffori mewn adeiladau newydd, neu ostyngiad llai wrth fodloni un neu fwy:

  1. Graddfa EPC A / Statws Passivhaus
  2. System wresogi nad yw'n danwydd ffosil
  3. Strwythurau carbon is*

*Dim ond gydag un categori arall neu fwy y mae gostyngiad ffi ar gael ar gyfer y categori hwn. Mae hyn yn golygu er enghraifft, ni fyddai ffrâm bren yn unig yn gymwys ar gyfer y gostyngiadau ffioedd.

 

Meini prawf cymhelliant gwyrdd

Mae graddfeydd EPC yn adlewyrchu effeithlonrwydd ynni eiddo; mae data diweddaraf RICS (2020) yn dangos bod 77% o’r holl adeiladau newydd yng Nghymru wedi cyflawni sgôr B, gyda dim ond 5% yn cael sgôr A.

Mae yna nifer o ffactorau sy'n gwella graddfeydd EPC cyfredol gan gynnwys:

  • Inswleiddio (maint ac ansawdd)
  • Gwydr dwbl / triphlyg
  • Paneli solar

Mae Passivhaus yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel safon aur cartrefi ynni-effeithlon o ystyried yr ynni isel iawn sydd ei angen i gyrraedd tymheredd cyfforddus trwy gydol y flwyddyn, gan wneud systemau gwresogi a chyflyru aer confensiynol yn ddarfodedig.

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym am wobrwyo datblygwyr sy'n cyflawni naill ai sgôr EPC Gradd A neu statws Passivhaus drwy gynnig gostyngiad ffi o 0.5%.

Derbynnir yn eang bod strwythurau amgen megis fframiau pren, blociau hempcrete neu galchcrit, a brics myseliwm yn cael llai o effaith carbon na choncrit.

Er bod cartrefi ffrâm bren wedi dod yn fwy cyffredin dros y degawd diwethaf, mae'r defnydd o ddewisiadau amgen llai cyffredin yn tyfu ond yn dal i fod ymhell o ddod yn brif ffrwd. I gefnogi datblygwyr sy'n edrych ar ddefnyddio deunydd adeiladu mwy gwyrdd, bydd y tîm Cymhelliant Gwyrdd yn ystyried pob opsiwn o'r fath fesul achos, gyda'r potensial i gynnig gostyngiad ffi o 0.5%.

Mae pympiau gwres o'r ddaear a'r aer yn lleihau'n sylweddol y galw gweithredol am ynni yn ystod oes eiddo ond maent yn dueddol o achosi costau ymlaen llaw sydd ychydig yn uwch.

Er mwyn helpu i liniaru hyn, mae Banc Datblygu Cymru yn cymell eu defnyddio gyda gostyngiad mewn ffioedd benthyciad o 0.75% ar gyfer defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer ac 1% ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell daear.

Darllenwch fwy am uchelgeisiau ynni glân ar gyfer cartrefi newydd Llywodraeth Cymru.

 

Trwy Gronfa Eiddo Preswyl Cymru rydym yn cynnig benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg yng Nghymru.

  • Benthyciadau hyd at 70% o Werth Datblygu Crynswth (GDC), gan gynnwys hyd at 100% o gostau adeiladu
  • Meintiau benthyciadau o £150,000 i £10 miliwn
  • Telerau benthyciad o hyd at bedair blynedd
  • Hyd at 2% o gymhelliant gwyrdd mewn ffioedd

Dim ond prosiectau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru rydyn ni’n eu cefnogi. I wneud cais am fenthyciad, bydd angen:

  • Crynodeb o gyfeiriad eich eiddo, cynlluniau datblygu a chostau rhagamcanol
  • Dadansoddiad o'r Gwerth Datblygu Crynswth disgwyliedig (hy y gwerthoedd terfynol ar ôl eu cwblhau)
  • Crynodeb o brofiad datblygu blaenorol i chi a'r unigolion allweddol dan sylw