Dyfarnu cyfleuster ESG syndicet i Bluestone Resorts yng Nghymru

Nick-Stork
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Cyllid
Twf
Marchnata
Busnesau technoleg
Bluestone

Mae Barclays a Banc Datblygu Cymru wedi dyfarnu cyfleuster syndicet i Bluestone. Dyma ail gyllid Barclays i Bluestone yn gysylltiedig â chynaliadwyedd, a’r cytundeb cyllido strategol mwyaf erioed i’r Banc Datblygu.

Bydd cyfanswm y cyfleuster benthyca yn galluogi Bluestone Resorts, sy’n gweithredu cyrchfan Bluestone yn Sir Benfro, i barhau â rhaglen fuddsoddi gynaliadwy fawr sydd eisoes ar waith, gan gynnwys y gwaith sy’n mynd ymlaen i ddatblygu’r gyrchfan a datblygu fferm solar 5 hectar a fydd yn cynhyrchu 3.2 megawat o drydan y flwyddyn. Disgwylir i’r fferm solar newydd ddarparu hyd at 30% o’r trydan a ddefnyddir yn flynyddol gan Bluestone.

Bydd y dull partneriaeth yn golygu bod Barclays yn cymryd rôl Cydlynydd Cynaliadwyedd, gan oruchwylio’r dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt ar gyfer datblygu cynaliadwy pellach yn Bluestone. Mae’r rhain yn cynnwys gwella enillion net bioamrywiaethol, lleihau dwysedd allyriadau, a sicrhau eu eco-achrediad Gwyrdd bob blwyddyn, sef label rhyngwladol a ddyfernir i gyfleusterau llety a lletygarwch sy’n ymrwymo i arferion busnes cynaliadwy.

Mae Bluestone yn gyrchfan gwyliau 500 erw sydd â’i wreiddiau a’i ethos o fod yn fusnes cynaliadwy. Dywedodd Prif Weithredwr Bluestone, William McNamara: “Rydym yn gweithio’n galed i greu dyfodol mwy cynaliadwy i Sir Benfro, gan leihau ein hallyriadau carbon ar yr un pryd.

“Rydym yn cyflogi dros 850 o bobl ac yn cefnogi busnesau Cymru drwy gyfrannu dros £7 miliwn o wariant blynyddol i’r gadwyn gyflenwi leol. Mae perfformiad ein busnes yn mynd y tu hwnt i elw, ac mae hyn yn dyst i’n hymrwymiad i gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol.”

Dywedodd Simon Vittle, Cyfarwyddwr Corfforaethau Mawr Barclays: “Mae ein partneriaeth â’r Banc Datblygu yn adlewyrchu ein hagwedd at gyllid cynaliadwy, gan ddarparu’r cyfalaf sydd ei angen i drawsnewid yr economïau rydym yn eu gwasanaethu.

“Wrth i’r galw am safonau cynaliadwyedd uwch mewn busnesau gynyddu, rydym yn arwain y ffordd gyda Bluestone wrth iddynt barhau i fuddsoddi yn Sir Benfro. Yn wir, credwn mai dyma un o’r cytundebau cyntaf yng Nghymru sydd â dangosyddion perfformiad allweddol sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth. Mae ein rôl fel Cydlynydd Cynaliadwyedd yn golygu y byddwn yn monitro’r dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt fel rhan o’n prosesau rheoli buddsoddiadau, i ddangos sut gall arferion cynaliadwy gyfrannu at berfformiad ariannol cadarn. Mae’n gyfle cyffrous iawn yr ydym yn falch iawn o fod yn gweithio arno mewn partneriaeth â’r Banc Datblygu.”

Arweiniodd Nick Stork, Rheolwr y Gronfa, y fargen ar gyfer Banc Datblygu Cymru ochr yn ochr â Clare Sullivan, Rheolwr Rhanbarthol Gorllewin Cymru. Dywedodd Nick: “Mae hwn yn fuddsoddiad strategol mawr i ddiwydiant twristiaeth Cymru, sydd wedi bod yn bosibl drwy weithio gyda Barclays i ffurfio syndicet sy’n manteisio ar ein cryfder a’n hymrwymiad ar y cyd er mwyn meithrin datblygiad cymdeithasol a chynaliadwy.  Dyma’r cyntaf o’i fath i ni, ac mae’n arbennig o braf gwybod y bydd ein pŵer cyfunol yn cael ei ddefnyddio i ariannu buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni gwyrdd cynaliadwy ac i ddatgloi twf ar gyfer Bluestone fel cyrchfan sefydledig i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn.

“Mae ein gallu i ddarparu’r cyllid hwn wedi digwydd o ganlyniad i waith tîm rhagorol a manteisio i’r eithaf ar ein graddfa i gefnogi prosiect strategol o’r maint hwn. Drwy gyfuno’r amrywiaeth o gronfeydd sydd ar gael i ni, rydym wedi gallu cefnogi nodau’r busnes sydd hefyd o fudd i ddyfodol cynaliadwy tymor hir twristiaeth yng Nghymru.”