Esblygiad parhaus Creo o fabwysiadu clinigol cynnar i fasnacheiddio rhyngwladol ehangach

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
creo medical

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Creo.

Creo Medical Group plc (Creo), cwmni dyfeisiau meddygol sy'n canolbwyntio ar y maes endosgopi llawfeddygol sy'n dod i'r amlwg, yn cyhoeddi ei ganlyniadau archwiliedig ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2019.

Roedd y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2019 yn gyfnod o gynnydd sylweddol o ran datblygiad a’r llwybr at lansiad masnachol ar gyfer cyfres o ddyfeisiau’r Cwmni i ategu ei Lwyfan Ynni Uwch CROMA a’i ddyfais Speedboat i’w ddefnyddio mewn endosgopi therapiwtig gastroberfeddol.

Yn ystod y flwyddyn, cryfhaodd Creo ei fantolen wedi iddo godi £51.9m ychwanegol (cyn treuliau) yn llwyddiannus trwy osodiad a chynnig agored. Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y swm arian parod a chyfwerth ag arian parod yn £81m.

Daeth cyfanswm y gwerthiannau yn ystod y flwyddyn i £151,000 a gwnaeth y busnes golled weithredol o £18.9 ac fe ddywedwyd fod hynny'n unol â disgwyliadau'r rheolwyr. 

Cyflawnodd Creo nifer o gyflawniadau gweithredol hefyd:

  • Cliriad o 510(k) gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau (‘FDA’) ar gyfer dyfais HS1 Haemostasis Creo ac maent ar y trywydd iawn i gael cliriad gyda dyfeisiau ychwanegol o’r gyfres o gynhyrchion yn yr UDA
  • Bydd y cynnydd lefel uwch a wnaed o ran cael cymeradwyaethau rheoliadol yn yr UE ar gyfer pedwar dyfais arall sydd wedi'i optimeiddio ar gyfer effeithiau meinwe craidd dyraniad, echdoriad, haemostasis ac abladiad y pedwar cynnyrch yn cael eu marcio â CE yn Ewrop ar yr un pryd pan dderbynnir tystysgrif CE newydd Creo, ac fe ddisgwylir i hynny ddigwydd yn fuan.
  • Portffolio Eiddo Deallusol (ED) cryfach, gyda 188 o batentau wedi'u caniatáu a 599 o geisiadau yn yr arfaeth (ar 31 Rhagfyr 2019).

 

Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr:

“Er gwaethaf yr heriau a’r ansicrwydd y mae COFID-19 wedi’u creu ar gyfer busnesau ledled y byd, rydym yn parhau i fod yn hyderus o’n rhagolygon tymor canolig a hir ar ôl datblygu cyfres heb ei hail o ddyfeisiau sy'n torri cwys newydd a fydd yn newid y ffordd y mae endosgopyddion a defnyddwyr llawfeddygol yn gweithredu a bydd yn cynnig buddion cadarnhaol i gleifion yn fyd-eang.

Gyda chefnogaeth diogelwch ein cyllid tymor hir ac yn dilyn ymdrechion enfawr tîm Creo, mae gennym bellach gyfres gyffrous o gynhyrchion llawfeddygaeth ynni datblygedig sy'n agosáu at gael cliriad rheoliadol ac sydd ar fin cael eu cyflwyno'n fasnachol wrth i gyfyngiadau'r cyfnod llwyrgloi gael eu lleddfu.

Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud hyd yma; rydym wedi datblygu prosiectau peirianneg datblygedig i fod yn gynhyrchion masnachol, rydym yn barod i symud o gynhyrchu'n lleol i weithgynhyrchu cyfeintiol, ac rydym wedi symud ein hyfforddeion cyntaf ymlaen i fod yn hyfforddwyr yn eu marchnadoedd cartref.

Er y gall y rhagolygon byd-eang ar gyfer 2020 fod yn ansicr, credaf ein bod wedi creu llwyfan cadarn ar gyfer cyflawni ein nodau masnachol tymor hwy.”

Ychwanegodd Dr Richard Thompson ar gyfer Banc Datblygu Cymru: "Mae'n wych gweld y cynnydd rhyfeddol y mae Creo yn parhau i'w gyflawni gyda chyfres mor drawiadol o gynhyrchion a fydd o fudd i gleifion yn fyd-eang."