Frog Bikes i leihau allyriadau carbon gyda buddsoddiad o £150,000 trwy gyfrwng y defnydd o alwminiwm wedi'i ailgylchu

David-Knight
Swyddog Buddsoddi
Cyllid
Frog Bikes

Mae benthyciad o £150,000 gan Gynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd Banc Datblygu Cymru yn helpu'r gwneuthurwr beiciau plant Frog Bikes i baratoi ar gyfer cynhyrchu fframiau a ffyrc a fydd yn lleihau allyriadau carbon o 5.8% fesul beic.

Bydd y buddsoddiad mewn 25% o alwminiwm wedi'i ailgylchu ôl-ddefnyddiwr yn arbed tua 3.5kg o CO2 fesul 1kg o alwminiwm a ddefnyddir, sy'n cyfateb i 5.8kg o CO2 fesul beic. Mae profion yn dangos ei fod o leiaf cyn gryfed ag alwminiwm newydd sbon ac mae'r cwmni'n obeithiol y bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer defnyddio alwminiwm 100% wedi'i ailgylchu. Gallai hyn arwain at arbedion o hyd at 864 tCO2e y flwyddyn, sy'n cyfateb i dynnu 375 o geir oddi ar y ffordd bob blwyddyn.

Ac yntau wedi cael ei wneud yn enwog gan ffotograff o'r Tywysog Louis ar ei feic cydbwysedd ym mis Ebrill 2021, sefydlwyd Frog Bikes yn 2013 Jerry a Shelley Lawson ar ôl iddynt gael trafferth dod o hyd i feiciau pwysau ysgafn o ansawdd da ar gyfer eu plant eu hunain. Ynghyd â Phrifysgol Brunel a'r peiriannydd beiciau Dimitris Katsanis, maent wedi diwygio'r meddylfryd y tu ôl i ddylunio beiciau plant.

Bellach mae gan Frog Bikes uned weithgynhyrchu 120,000 troedfedd sgwâr ar Stad Parc Mamhilad ger Pont-y-pŵl lle mae'r cwmni'n cyflogi tîm o 35. Mae gan y cwmni gapasiti i adeiladu hyd at 400,000 o feiciau'r flwyddyn a dyfarnwyd Gwobr y Brenin am Fenter iddo ym mis Ebrill 2023.

Fel aelod o’r SME Climate Hub, sef menter fyd-eang sy’n grymuso cwmnïau bach a chanolig i weithredu ar yr hinsawdd ac adeiladu busnesau mwy gwydn, mae Frog Bikes wedi ymrwymo i haneru allyriadau erbyn 2030 fel rhan o ymgyrch Râs i Gyrraedd Sero y Cenhedloedd Unedig.

Meddai’r Prif ‘Lyffant,’ Jerry Lawson: “Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu ein beiciau mewn ffordd sy’n ymwybodol o’r amgylchedd felly rydym yn gweithio’n barhaus i integreiddio cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar y busnes. Mae'n broses barhaus ond rydym wedi gwneud cynnydd da drwy dynnu plastig untro o'n pecynnau, gwella dyluniad ein beiciau i leihau'r deunyddiau sydd eu hangen a gosod paneli solar.

“Ein nod yw lleihau ymhellach yr allyriadau CO2 o bob beic yr ydym yn ei gynhyrchu trwy amnewid yr alwminiwm gydag alwminiwm wedi'i ailgylchu 100%. Gallai hyn arwain at arbedion o hyd at 864 tCO2e y flwyddyn a ni fyddai un o’r gwneuthurwyr beiciau cyntaf yn y Byd i ddilyn y trywydd hwn ond mae angen buddsoddiad arnom i wneud iddo ddigwydd. Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu yn ein galluogi i symud ar gyflymder na allem ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hamgylchedd a’n gallu i feithrin cenhedlaeth o blant iach, egnïol a hapus gydag arferion cadarnhaol, gydol oes.”

Dywedodd y Swyddog Buddsoddi, David Knight: “Gydag ymrwymiad gwirioneddol i gynaliadwyedd, mae Frog Bikes wedi symud ymlaen yn dda ar y daith tuag at sero net, ond mae’r tîm yn cydnabod bod angen gwneud mwy i leihau effaith amgylcheddol eu gweithrediadau.

“Mae ymchwil helaeth a chyrchu gofalus yn golygu y gall y gwaith o gynhyrchu cydrannau gan ddefnyddio 25% o alwminiwm wedi'i ailgylchu ôl-ddefnyddiwr ddechrau nawr. Mae’n gam mawr ymlaen ac yn enghraifft wych o sut y gall cyllid o’n Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd helpu busnesau o bob maint i leihau eu hallyriadau carbon.”

Ariennir y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cyllid o £1,000 hyd at £1.5 miliwn gyda chyfraddau llog gostyngol a chyfalaf amyneddgar i gefnogi busnesau sy’n ymgymryd â phrosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Mae'r Cynllun hefyd yn darparu mynediad at gymorth ymgynghorol wedi'i ariannu'n llawn ac yn rhannol i gynnal archwiliadau ynni penodol i fusnes. Gall cwmnïau cyfyngedig, masnachwyr unigol a phartneriaethau wneud cais am gyllid drwy’r Cynllun yn amodol ar fod wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn masnachu am o leiaf dwy flynedd gydag o leiaf un set o gyfrifon blynyddol wedi’u ffeilio.