Gemydd 4edd cenhedlaeth yn buddsoddi mewn busnes teuluol 155 oed

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Howells Ch-Dd Paul Howells, Richard Easton

Mae'r gemydd pedwaredd genhedlaeth, Paul Howells, wedi cwblhau'r gwaith o adnewyddu ei fusnes teuluol 155 oed, gan ddod â siop adwerthu gyfagos yn ôl yn fyw a diogelu pedair swydd yn nhref farchnad Hwlffordd.

Wedi’i sefydlu ym 1866 gan hen dad-cu Paul, mae Howells Jewellers mewn safle gwych ar Quay Street yn Hwlffordd. Mae benthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru a chyllid o Gynllun Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi Cyngor Sir Penfro, a gynlluniwyd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, wedi galluogi adnewyddu’r siop â ffrynt dwbl a chreu pedwar fflat newydd.  A hwythau yn cynnig golygfeydd o'r afon, mae pob un o'r fflatiau dwy ystafell wely i'w rhentu i bobl leol sy'n chwilio am lety o safon yn Hwlffordd.

Dywedodd Paul Howell: “Rydyn ni'n wirioneddol falch o'n busnes teuluol ac yn mwynhau'r swydd rydyn ni'n ei gwneud; helpu ein cwsmeriaid i ddewis y gemwaith perffaith. Fodd bynnag, roedd ein hadeilad mewn cyflwr gwael ac roedd angen ei adnewyddu er mwyn sicrhau llwyddiant hir dymor y busnes a rhoi bywyd newydd i'r eiddo. Mae’r cyllid gan y Banc Datblygu a Chyngor Sir Benfro wedi ein galluogi i’r adeilad gael ei adnewyddu gyda ffrynt siop newydd trwsiadaus a phedwar fflat newydd, gan ddiogelu ein dyfodol a helpu’r dref i ffynnu.”

Mae Richard Easton yn weithredwr portffolio gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae prynu gemwaith yn dal i fod yn un pryniant y mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau ei wneud yn bersonol yn hytrach nag ar-lein felly mae galw mawr o hyd am emwyr stryd fawr o ansawdd uchel fel Howells.

“A hwythau gyda dilyniant ffyddlon iawn, mae Howells wedi bod yn rhan annatod o Hwlffordd am dros 155 mlynedd. Mae ein buddsoddiad wedi helpu i amddiffyn yr etifeddiaeth hon, diogelu swyddi, creu cartrefi newydd a chefnogi dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus i fusnes lleol hir sefydlog ac uchel ei barch.”

Ariennir Cronfa Busnes Cymru yn rhannol gan y GDRhE (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru. Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud i Gymru gyda benthyciadau a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn.

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr. Y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf am ddechrau busnes.

Gwiriwr cymhwysedd Ymgeisio nawr