Glucose Republic yn codi buddsoddiad o £500,000 i adeiladu'r ap cyntaf a ffocws ar effaith bwyd

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Glucose Republic (GR) wedi codi £500,000 mewn cylch buddsoddi gan fuddsoddwyr ecwiti blaenllaw Deepbridge Capital a Banc Datblygu Cymru, i adeiladu system gyntaf y byd sy'n canolbwyntio ar yr effaith y mae bwyd yn ei chael arnom. 

Mae GR yn cyfuno bioleg a meddalwedd i'n helpu ni i fyw a bwyta'n well. Ffurfiwyd y cwmni sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd gan Julian Shapley a David Haines, a oedd gynt yn ymwneud â datblygu platfform rheoli clefyd siwgr symudol cyntaf y byd. Mae gan bob person olion bysedd bwyd unigryw, sy'n dangos sut rydyn ni'n ymateb i fwydydd. Gallwn gyrchu'r olion bysedd hynny trwy olrhain ein lefelau glwcos ein hunain. Gellir defnyddio hyn i roi adborth wedi'i bersonoli i ddefnyddwyr ar effaith metabolig y bwyd maen nhw wedi'i fwyta, gan eu galluogi i wneud dewisiadau prydau bwyd gyda mwy o hyder.    

Mae'r system GR yn caniatáu i ddefnyddwyr fesur yn uniongyrchol sut mae eu corff yn ymateb i'r bwydydd maen nhw'n eu bwyta a'r pethau maen nhw'n eu gwneud. Mae deall yr effaith glwcos yn galluogi cwsmeriaid i edrych, teimlo a bod yn well, gan addasu eu cynlluniau bwyd i'w ffordd o fyw eu hunain gan alluogi cwsmeriaid i ddeall eu hymatebion personol i fwyd, gan greu ymatebion unigol a llwybrau cynaliadwy wrth symud ymlaen. Bydd y platfform GR yn galluogi mwy o reolaeth dros ddewisiadau bwyta a mwy o ryddid bwyd.   

Ar adeg pan fo clefyd cardiofasgwlaidd ar ei uchaf erioed, yn ogystal ag effaith COVID-19, mae GR yn credu bod ei fynediad i'r farchnad yn amserol. Dywedodd Prif Weithredwr GR, David Haines: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Deepbridge a Banc Datblygu Cymru wedi ymuno â’n cenhadaeth i helpu cwsmeriaid i ddeall effaith eu dewisiadau bwyd, ac elwa ar ein cynnig glwcos.”

Dywedodd Ben Carter, Rheolwr Buddsoddi Deepbridge: “Yn Deepbridge, rydym yn buddsoddi mewn timau cryf sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i greu cynhyrchion y gellir cynyddu eu graddfa ar sail fyd-eang. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â GR yn ystod ei ddatblygiad parhaus a'i fasnacheiddio."

Dywedodd Uwch Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru, Richard Thompson: “Rydym yn falch iawn o gyd-fuddsoddi gyda Deepbridge eto ac i gefnogi Glucose Republic. Bydd ein buddsoddiad ecwiti yn helpu Julian, David a’r tîm i wireddu eu potensial, gan wella iechyd pobl trwy rymuso unigolion i ddewis y bwydydd sydd orau iddyn nhw.”   

Cynghorwyd GR gan Capital Law. Cynrychiolwyd Deepbridge gan eu cwnsler mewnol, a chynghorwyd Banc Datblygu Cymru gan Geldards. 

Dywedodd Jordan Thomas o Capital Law: “Mae GR yn fusnes cyffrous ac arloesol, sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a lles trwy ei dechnoleg unigryw. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â David, Julian a’r tîm i sicrhau’r buddsoddiad hwn ac rydym yn disgwyl i’r cwmni ffynnu gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Deepbridge.” 

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni