Grŵp bwytai wedi’u gwobrwyo â seren Michelin yn ehangu gyda chefnogaeth y Banc Datblygu

Will-Jones
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Ynyshir

Mae bwyty byd-enwog sydd wedi’i leoli yng nghanolbarth Cymru wedi agor safle newydd yng nghanol Machynlleth, diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru.

Bwyty ac  Ystafelloedd Ynyshir Restaurant and Rooms, Eglwys Fach, yw’r unig fwyty yng Nghymru sydd erioed wedi dal dwy seren Michelin, a chafodd ei enwi’n fwyty gorau’r DU yng Ngwobrau Bwyty Cenedlaethol Estrella Damn 2022.

Mae’r cogydd sydd wedi ennill sawl gwobr, Gareth Ward, wedi arwain y gegin ym Mwyty ac Ystafelloedd Ynyshir Restaurant and Rooms ers 2013, gan ennill Pum rhoséd AA ac ugeiniau o ganmoliaeth o bob rhan o’r byd bwyta coeth.

Nawr, diolch i fenthyciad o £100,000 gan Fanc Datblygu Cymru, mae Grŵp Bwyty Ynyshir wedi agor Gwen, bwyty agos-atoch wyth sedd sy’n cynnig profiad bwyta cymunedol, dan arweiniad y cogydd Corrin Harrison.

Roedd y benthyciad, a ddarparwyd gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, wedi galluogi Ynyshir i ailwampio'r bistro gynt fel bwyty a bar gwin newydd ac fe fydd ar agor mewn pryd ar gyfer y tymor twristiaeth.

Wedi’i henwi ar ôl mam Gareth Ward, mae gan Gwen far gwin clyd sy’n cynnig gwinoedd o ffynonellau gofalus a chwrw crefft o bedwar ban byd. Bydd y fwydlen yn defnyddio'r un cynhwysion sy'n arwain y byd a ddefnyddir yn Ynyshir, gan gynnwys cig eidion A5 Wagyu, cig oen a physgod Prydeinig.

Dywedodd Amelia Eiriksson, cyfarwyddwr creadigol Grŵp Bwyty Ynyshir: “Rydym wedi bod yn edrych ar ehangu posib ers oesoedd, ond roeddem eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael y lleoliad cywir a allai gyfleu'r awyrgylch yr oeddem ei eisiau. Bydd Gwen yn fwy o brofiad bwyta hamddenol ac ymlaciol nag yn Ynyshir, ac mae'r lleoliad newydd yn cyd-fynd â'r weledigaeth fwyta lai, fwy cymunedol a oedd gennym mewn golwg.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i'r lleoliad gwych hwn yng nghanol Machynlleth, ychydig i fyny'r ffordd o Ynyshir. Rydyn ni'n caru'r ardal hon ac eisiau ei gwneud yn gyrchfan bwyd go iawn. Mae’r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru wedi golygu ein bod ni wedi gallu ailwampio Gwen y ffordd roedden ni eisiau mewn pryd ar gyfer y gwanwyn, ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda nhw.”

Dywedodd Will Jones, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Yn amlwg mae gan Ynyshir enw gwych ac mae eu gwaith arobryn yn Ynyshir wedi ennill clod iddynt ledled y byd, felly roeddem yn falch iawn o’u helpu i agor Gwen yng nghanol tref Machynlleth, gan ganiatáu iddynt ddod â'u profiad bwyta gwych i gynulleidfa ehangach.

“Mae Neuadd Ynyshir wedi bod yn allweddol wrth ddod â phobl i’r rhan hon o Gymru o bob rhan o’r byd, a bydd ychwanegu Gwen yn cryfhau’r hyn sydd ar gael ym Machynlleth diolch i waith y busnes hwn sydd wedi hen ennill ei blwyf.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn agored i fargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn, gyda benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael, gyda hyblygrwydd am hyd at 15 mlynedd.