Gwasanaeth tanysgrifio ceir Wagonex yn symud i hwb tech Caerdydd

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wagonex

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wagonex.

Cyhoeddodd Wagonex, y gwasanaeth tanysgrifio ceir, heddiw eu bod wedi cwblhau symud i Gaerdydd. Mae'r garreg filltir hon yn llwyddiant mawr i Wagonex sy'n benderfynol o ail-greu y syniadaeth y tu ôl i berchnogaeth ceir.

“Mae symud i Gymru yn nodi cam nesaf twf y cwmni. Ers symud, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi rhyddhau ein llwyfan wedi’i uwchraddio, - rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosibl heb y symudiad hwn,” meddai Toby Kernon, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Wagonex. “Rhaid diolch yn ychwanegol i Fanc Datblygu Cymru am ein helpu i sichrau bod symud wedi bod yn llyfn a llwyddiannus.”

Nod Wagonex yw gwneud perchnogaeth car yn rhywbeth o'r gorffennol, a chynnig ystod o gerbydau ar gynlluniau tanysgrifio hollgynhwysol yn lle hynny. Gall defnyddwyr gofrestru ar gyfer y pecyn cyflawn, gan gynnwys yswiriant a chymorth ar ochr y ffordd, mewn ychydig gliciau yn unig, a chael eu car newydd at eu drws.

Ychwanegodd Dr Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi yn nhîm mentrau technoleg y Banc Datblygu: “Mae Wagonex yn gweithio gyda rhai o wneuthurwyr ceir mwyaf y byd. Mae'n wych eu cefnogi i ehangu eu pencadlys yng Nghaerdydd, sydd bellach yn cael ei gydnabod fel un o botiau mel ecwiti'r DU. Mae darparwyr gwasanaeth tanysgrifio yn chwarae rhan bwysig mewn byd sy'n newid yn gyflym lle mae defnyddwyr yn disgwyl cael mynediad cyflym at gynhyrchion. Mae llwyfan meddalwedd Wagonex yn gwneud hyn yn bosibl i gwmnïau modurol, gwerthwyr ceir, a'u cwsmeriaid."

Mae'r cwmni bellach wedi'i leoli mewn lleoliad technoleg hynod boblogaidd, Tramshed Tech, ac maent wedi cyflogi tîm i weithredu eu gwefan newydd wrth iddynt barhau i dyfu.