Gweithredydd Lleoliad Priodas yng Nghymru yn Agor Trydydd Lleoliad yn Dilyn Bargen Ariannu Saith Ffigur

Daniel-Kinsey
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Oldwalls

Mae casgliad arobryn o leoliadau priodas yn agor ei drydydd lleoliad yng Nghymru diolch i becyn ariannu saith ffigur ar y cyd gan HSBC UK a Banc Datblygu Cymru.

Mae’r Oldwalls Collection, a agorodd 14 mlynedd yn ôl, wedi defnyddio’r cyllid i ychwanegu Tŷ Sant Ffraed yn y Fenni at ei bortffolio arobryn presennol sy’n cynnwys lleoliadau priodas, Fairyhill ac Oldwalls Gŵyr a nifer o fythynnod gwyliau moethus.

Wedi'i leoli mewn 16 erw o gefn gwlad brydferth y Fenni, mae gan Dŷ Sant Ffraed ystafelloedd seremoni ac ystafell dderbyn ar gyfer 150 o bobl, llety sylweddol ar y safle, dau far, a gofod adloniant gyda'r nos. Bydd yr agoriad yn creu 50+ o swyddi newydd ar gyfer y gymuned leol a disgwylir iddo groesawu 15,000 o westeion erbyn 2023.

Dywedodd Andrew Hole, Rheolwr Gyfarwyddwr Oldwalls Collection: “Mae’r   diwydiant digwyddiadau priodas wedi cael ei darfu arno’n ddifrifol ers y pandemig, gyda chyplau yn aildrefnu dyddiadau sawl gwaith. Wrth i'r diwydiant ddechrau bownsio'n ôl, fe wnaethom geisio ateb eang i ddarparu mwy o ddewis.

“Mae HSBC UK a Banc Datblygu Cymru wedi bod o gymorth mawr drwy gydol y broses o gaffael ac agor Tŷ Sant Ffraed, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r berthynas gyda’r ddau fanc wrth i ni ehangu’r busnes ymhellach.”

Ychwanegodd Anthony Couzens, Cyfarwyddwr Perthynas ar gyfer HSBC UK Corporate Banking South Wales: “Mae wedi bod yn bleser cefnogi Andrew a’r tîm yn Oldwalls gyda’u hehangiad parhaus ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru. Mae Oldwalls wedi darparu ychwanegiad newydd ysblennydd i’r arlwy lletygarwch Cymreig ac wedi codi’r bar gydag ailddatblygiad Tŷ Sant Ffraed. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.”

Dywedodd Daniel Kinsey, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel cwsmer presennol, mae gennym ni berthynas waith ardderchog gyda’r tîm yn Oldwalls. Mae ganddyn nhw enw da ledled Cymru, ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cefnogi pryniant diweddar y busnesau o Dŷ Sant Ffraed i ehangu ei bortffolio mewn partneriaeth â HSBC UK.”