Gwerthwr blodau yng Nghaerdydd yn blodeuo gyda benthyciad micro o £15,000

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
John Henry Flowers

Mae benthyciad o £15,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi helpu John Henry Flowers i adleoli i adeilad mwy yn Uned 10, Wellfield Court yng Nghaerdydd wrth i fusnes ffynnu ar gyfer y gwerthwyr blodau poblogaidd.

Yn eiddo ac yn cael ei reoli gan y pâr priod Michael Webb a John Sartain, sefydlwyd John Henry Flowers ym mis Gorffennaf 2021 ac mae bellach yn darparu amrywiaeth o flodau ar gyfer pob achlysur gan gynnwys tuswau a threfniadau parod i fynd. Roedd cynnydd yn y galw am blanhigion tŷ, potiau addurniadol, fasys ac ategolion yn golygu bod angen lle ychwanegol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr John Sartain: “Cysylltodd ein landlord â ni i egluro bod siop fwy yn Wellfield Court yn dod ar gael a’i fod yn amseriad delfrydol gan fod angen mwy o le arnom ac eisiau manteisio ar flaen siop fwy gyda mwy o fasnach yn mynd heibio.

“Fe wnaethon ni’r symiau a sefydlu’n gyflym bod angen £15,000 i ariannu’r gwaith gosod a rhoi rhywfaint o gyfalaf gweithio ychwanegol i ni i brynu mwy o stoc a thalu’r rhent uwch. Efallai nad yw hynny’n ymddangos fel llawer o arian i rai perchnogion busnes, ond i ni, roeddem yn gwybod y byddai’n gwneud byd o wahaniaeth drwy dalu am symud a rhoi lle inni dyfu. Roedd agwedd hyblyg a chyfeillgar y Banc Datblygu yn golygu ein bod yn cael yr union swm yr oedd ei angen arnom, pan oedd ei angen arnom, felly rydym bellach yn weithredol yn ein hadeilad newydd ac ni allem fod yn hapusach.”

Mae Donna Strohmeyer yn Swyddog Buddsoddi ar gyfer Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Busnesau bach yw anadl einioes ein heconomi felly rydym yn gweithio’n galed i ddarparu benthyciadau sy’n helpu perchnogion busnes i fanteisio ar gyfleoedd newydd a hwyluso llif arian. Mae John a Michael wedi gwneud gwaith gwych yn gosod eu siop newydd ac mae ganddyn nhw bellach y gofod ffisegol ac ariannol i dyfu.”

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £32.5 miliwn yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael i fusnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng un a 10 mlynedd.