Hut Six yn cynnal momentwm wrth iddo gwblhau rownd gyllido

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
hut six

Mae Hut Six Security Ltd, datblygwr cynhyrchion hyfforddiant diogelwch gwybodaeth sy'n seiliedig ar feddalwedd, yn falch o gyhoeddi bod rownd ariannu ecwiti gwerth £450,000 wedi dod i ben yn llwyddiannus. Cymerodd cyfranddalwyr presennol a newydd, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a chyfres o fuddsoddwyr angel, ran yn y rownd hon.

Dyma ail rownd ariannu'r cwmni ers iddo gael ei lansio ym mis Ionawr 2017. Ar ôl cwblhau'r rhaglen entrepreneuriaeth i raddedigion a redir gan ddeorydd technoleg elusennol, yr Alacrity Foundation, cafodd fudd o rownd ariannu gychwynnol yn y gwanwyn yn 2017. Arweiniwyd hyn gan gerbyd buddsoddi Syr Terry Matthews, Wesley Clover. Ers hynny mae'r cwmni wedi symud ymlaen o fod yn fusnes yn dechrau o'r newydd ac erbyn hyn mae yn y broses o gynyddu maint ei raddfa. Bydd yr arian a godir yn cefnogi ehangiad domestig a thramor y cwmni trwy gefnogaeth weithredol ychwanegol yn ogystal â chynyddu gweithgarwch gwerthu a marchnata.                                                             

Mae Hut Six wedi dylunio ac wedi datblygu cyfres o gynhyrchion seiber ddiogelwch sy'n seiliedig ar feddalwedd sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn dangos ymddygiad cywirol priodol ymhlith defnyddwyr Technoleg Gwybodaeth (TG) i frwydro yn erbyn y technegau a'r dulliau a ddefnyddir i dorri gweithdrefnau diogelwch sefydliad. Trwy leihau'r risgiau o wallau dynol, mae Hut Six yn cefnogi sefydliadau i greu diwylliant cyfrifol sy'n ymwybodol o ddiogelwch. Mae Gartner, yr arbenigwyr ym maes ymchwil marchnata technoleg, wedi amcangyfrif bod y farchnad Ymwybyddiaeth Diogelwch Gwybodaeth (YDG) gyfredol wedi cyrraedd bron i £1 biliwn y flwyddyn, gyda thwf amcangyfrifedig o 13% flwyddyn ar ôl blwyddyn. Hyfforddiant sy'n seiliedig ar gyfrifiadur yw'r gyfran unigol fwyaf yn y farchnad YDG, sy'n cyfrif am dros 25% o refeniw.

Wrth sôn am y cytundeb, dywedodd Simon Fraser, Prif Weithredwr Hut Six: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cyrraedd y cerrig milltir masnachol a sefydlwyd gennym ar adeg cylch buddsoddi sbarduno’r Cwmni. Rydym bellach yn dechrau ar gyfnod twf sylweddol. Mae'r ffaith ein bod wedi denu buddsoddiad gan fuddsoddwyr presennol, sydd wedi dewis arfer eu hawliau, yn ogystal â buddsoddwyr newydd yn cadarnhau eu cefnogaeth i'r cynnydd a wnaed gennym.”

Mae Banc Datblygu Cymru, Wesley Clover, Llywodraeth Cymru, y Waterloo Foundation a buddsoddwyr angel unigol i gyd yn rhanddeiliaid sydd ag uchelgais i greu clwstwr o gwmnïau meddalwedd sy'n ffynnu yn Ne Cymru. Y buddsoddiad a wnaed gan y banc datblygu yw'r diweddaraf o dair bargen a wnaed ganddo mewn cwmnïau sydd wedi dod i'r amlwg o'r Alacrity Foundation, ar ôl buddsoddi'n flaenorol yn Learnium a Talkative.

Mae Dr Carl Griffiths, rheolwr cronfa sbarduno technoleg y banc datblygu yn credu bod angen partneriaethau agosach gyda buddsoddwyr fel Wesley Clover ac Alacrity i helpu twf sector technoleg Cymru. Wrth wneud sylw ar y buddsoddiad, dywedodd: “Un o amcanion y banc datblygu yw darparu cyllid ar gyfer cwmnïau technoleg cyfnod cynnar sydd â’r potensial i ehangu a chreu cyflogaeth newydd yn gyflym. Mae Hut Six yn cyd-fynd â'r proffil hwn. Mae'r Cwmni'n gweithio mewn maes twf pwysig yn y gofod TGCh a diogelwch seiber. Rydym yn gyffrous i weithio ochr yn ochr â hwy a chyd-fuddsoddwyr eraill wrth iddynt gymryd rhan yn eu cyfnod ehangu diweddaraf.”