Hwb i'r tîm technoleg ym Manc Datblygu Cymru wrth i rai newydd gael eu llogi ac eraill gael eu dyrchafu er mwyn helpu mwy o fusnesau technoleg

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
helen kuhlman

Mae'r tîm Buddsoddiadau Menter Technoleg ym Manc Datblygu Cymru yn ehangu, wrth i Fanc Datblygu Cymru geisio cefnogi busnesau technoleg Cymru ymhellach.

Mae Helen Kuhlman yn ymuno â'r Banc Datblygu fel uwch swyddog buddsoddi. Mae Alex Leigh wedi cael ei ddyrchafu'n uwch swyddog buddsoddi ac mae David Blake wedi’i ddyrchafu o fod yn swyddog buddsoddi cynorthwyol i fod yn swyddog buddsoddi.

Mae gan Dr Helen Kuhlman BSc mewn Gwyddoniaeth Biofeddygol a PhD mewn Ffisioleg Cell a Ffarmacoleg. Cyn ymuno â'r tîm technoleg yn y Banc Datblygu, roedd gan Helen rolau yn sefydliadau'r sector preifat a’r llywodraeth. Mae hi wedi bod yn gysylltiedig â datblygu meddyginiaethau arloesol yn ogystal â rhai ymadawiadau masnachol llwyddiannus. Roedd Helen yn gyfrifol am sefydlu'r Catalydd Biofeddygol, cynllun Bwrdd Strategaeth Technoleg / InnovateUK mewn partneriaeth â'r Cyngor Ymchwil Feddygol. Cyflawnodd hyn £180 miliwn i fusnesau ac ymchwilwyr gofal iechyd dwys ymchwil a datblygu ledled y DU. Ei rôl cyn ymuno â'r Banc Datblygu oedd Is Lywydd Datblygu Corfforaethol biotech sy’n seiliedig yn Rhydychen ac yn datblygu therapiwteg ar gyfer anhwylderau'r system nerfol ganolog.

Meddai Helen: “Mae’n bleser cael ymuno â thîm mor ddeinamig sy’n canolbwyntio ar greu gwerth o dechnolegau arloesol. Dechreuodd fy ngyrfa wrth fainc y labordy a symudais ymlaen i faes rheoli a buddsoddi felly rwy'n deall yr heriau sy'n wynebu timau rheoli wrth dyfu eu cwmnïau a'u tywys tuag at ymadawiad llwyddiannus. Rwy’n gyffrous i weithio mewn partneriaeth gyda mentergarwyr o’r un anian.”

Mae gan Alex Leigh radd peirianneg gydag anrhydedd mewn Mecatroneg o Brifysgol Stellenbosch ac MBA o Brifysgol Cape Town ac Ysgol Busnes Llundain. Ymunodd â Banc Datblygu Cymru yn 2018 ac mae wedi bod yn allweddol wrth sicrhau nifer o fargeinion cam cynnar a sbarduno ar gyfer y sefydliad. Mae'n nodedig am weithio gyda chwmnïau Meddalwedd fel Gwasanaeth arobryn fel BookingLive ac OpenGenius.

Mae David Blake wedi graddio gydag MSc Cyfrifiadura o Brifysgol Caerdydd ac mae'n aelod cymwysedig llawn ac yn gymrawd o gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig. Yn y gorffennol, mae o wedi datblygu cymhwysiad cadwyn bloc yn ogystal â dechrau meddalwedd fel gwasanaeth sy’n adrodd ar gyfrifeg.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Buddsoddi Technoleg, Simon Thelwall-Jones: “Ers ymuno â’r Banc Datblygu fy hun yn 2019, fy ffocws fu parhau â gwaith fy rhagflaenydd wrth gefnogi twf mwy a mwy o fusnesau technoleg ledled Cymru gyfan, gan adeiladu ar y clystyrau presennol ac annog mwy ohonynt. Mae'r tîm yn gweithio tuag at y nod hwn gyda phob buddsoddiad y maen nhw'n ei gwblhau. Mae galw amlwg a phresennol am fwy o gefnogaeth ar gyfer mentergarwyr technoleg Cymru. Wrth i'n tîm ni ehangu rydyn ni yma i gefnogi'r awydd hwnnw am arloesedd gyda chyllid ecwiti.

“Rwy’n falch iawn o groesawu Helen gyda’i chyfoeth o wybodaeth am ofal iechyd a buddsoddi. Rwyf hefyd yn falch o hyrwyddo Alex a David, sydd ill dau wedi gweithio'n ddiflino i helpu cwmnïau technoleg Cymru ers ymuno â'n tîm. Mae’r dyrchafiadau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus Banc Datblygu Cymru i adeiladu gyrfa o fewn y sefydliad. Mae Alex, David a Helen yn weithwyr proffesiynol buddsoddi dawnus ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cefnogi mwy o fusnesau technoleg Cymru dros y blynyddoedd i ddod.”

I ddarganfod mwy am gyllid ar gyfer busnesau technoleg, ewch i weld: https://developmentbank.wales/cy/cael-cyllid-busnes/cyllid-ar-gyfer-mentrau-tech

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i ymuno â'r tîm Buddsoddiadau Technoleg Menter, ewch i weld: https://developmentbank.wales/cy/amdanom-ni/gyrfaoedd