Integreiddiwr Technoleg Morol ym Mhen-Y-Bont Ar Ogwr yn Cwblhau AllRh

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Twf
Avantis Marine

Mae darparwr gwasanaeth technoleg ar gyfer y sector morol o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cwblhau allbryniant rheolwyr (AllRh) gyda phecyn saith ffigur gan y Banc Datblygu a HSBC UK.

Wedi’i sefydlu yn 2019, mae Avantis wedi defnyddio’r buddsoddiad ecwiti gan y Banc Datblygu i gwblhau’r AllRh gan y perchnogion presennol, Envoy and Partners, gyda’r mentergarwr ifanc Thomas David yn cymryd rôl y Prif Weithredwr. Ac yntau’n 30 oed, mae’n cael ei gefnogi gan y Cadeirydd Chris David, y Prif Swyddog Gweithredu Jack Jenkins a’r Prif Swyddog Masnachol, Leon Solder.

Bydd cyfalaf gweithio gan HSBC UK nawr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau twf Avantis, sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio’r diwydiant morol ac olew a nwy. Bydd yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth hirdymor yn Ne Cymru ac yn rhyngwladol. Bydd yr AllRh hefyd yn sicrhau bod y busnes yn cael ei reoli'n ganolog, gan alluogi'r tîm rheoli i gael rheolaeth dros weithrediadau a chwilota o ddydd i ddydd.

Dywedodd Tom David, Prif Weithredwr Avantis: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cwblhau'r trafodiad hwn, a fydd yn golygu bod ein busnes yn parhau ar ei daith twf. Ers sefydlu Avantis dim ond tair blynedd yn ôl, rydym wedi cyflawni twf parhaus a bron wedi dyblu ein trosiant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Teimlai’r fargen hon fel y cam rhesymegol nesaf i sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ein gweledigaeth fel tîm rheoli wedi’i leoli yng Nghymru.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru a HSBC UK am eu cefnogaeth i wireddu’r trafodiad hwn.”

Mae Ruby Harcombe a Navid Mae Falatoori ill dau yn Uwch Swyddogion Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. A dyma yr oedd ganddynt i’w ddweud: “Wrth ddarparu gwasanaethau effeithlonrwydd ynni i’r diwydiant morol byd-eang, mae Avantis yn arloesi gyda thechnoleg werdd a lleihau ôl troed carbon gyda model busnes sy’n canolbwyntio ar ysbryd mentergarol a hyblygrwydd.

Mae'n arbennig o braf bod Tom a'r tîm yn elwa o'n Cronfa Olyniaeth Rheoli gwerth £25 miliwn gan ei fod yn benodol ar gyfer timau rheoli yng Nghymru sydd eisiau rhedeg a bod yn berchen ar eu busnes eu hunain. Mae hon yn stori lwyddiant gartref go iawn ac rydym yn arbennig o falch o fod yn cefnogi Tom fel mentergarwr ifanc o Gymru.“

Ychwanegodd Warren Lewis, Pennaeth Bancio Corfforaethol, Cymru yn HSBC UK: “Rydym yn falch o gefnogi'r busnes arloesol hwn i gyflawni ei gyfnod twf nesaf. Gyda swyddfeydd yn Rio De Janeiro a Dubai, yn ogystal â'i bencadlys yng Nghaerdydd, mae Avantis yn enghraifft wych o fusnes byd-eang sydd wedi datblygu enw rhagorol yn y farchnad dechnoleg.”

Cynghorodd Berry Smith a Grant Thornton Fanc Datblygu Cymru a chynghorodd Activity Law Avantis.