Mae’r busnes dyfeisiau meddygol IQ Endoscopes wedi sicrhau buddsoddiad o £5.2 miliwn mewn rownd a arweinir gan BGF – un o’r buddsoddwyr mwyaf a mwyaf profiadol yn y DU ac Iwerddon – ochr yn ochr â’r buddsoddwr presennol, Banc Datblygu Cymru a chonsortiwm o fuddsoddwyr.
Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi datblygiad a chyflwyniad dyfais feddygol arloesol IQ Endoscope sydd â'r potensial i chwyldroi diagnosis cynnar ystod o ganserau a chyflyrau gastro-berfeddol eraill.
Wedi’i leoli yng Nghas-gwent, De Cymru, mae IQ Endoscopes wedi creu dyfais endosgopi untro sydd nid yn unig yn gost-effeithiol ac yn raddadwy ond sydd hefyd yn gynaliadwy.
Yn ddiweddar, cefnogwyd y cwmni gyda grant gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, a derbyniodd gefnogaeth gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu strategaeth ailgylchu newydd ar gyfer y cynnyrch newydd.
Mae technoleg IQ Endoscopes yn trosoli profiad cyflenwol ei sylfaenwyr; Mae Dr Patrick Ward-Booth yn dod â dros 40 mlynedd o brofiad clinigol yn y maes endosgopi, tra bod gan CTO Andrew Miller gefndir mewn peirianneg fodurol sydd wedi'i gymhwyso i ddylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion y cwmni.
Mae’r busnes, a lansiwyd yn 2017 wedi codi £5.9 miliwn hyd yma, gyda chyllid sbarduno a buddsoddiad dilynol wedi’i godi gan fuddsoddwyr gan gynnwys Banc Datblygu Cymru. Mae IQ Endoscopes wedi symud yn ei flaen yn gyflym iawn dros y pum mlynedd diwethaf a bydd arian o'r rownd ddiweddaraf hon yn canolbwyntio ar strategaeth mynediad i'r farchnad cyn lansio'r cynnyrch.
Rhagwelir y bydd cyfeintiau byd-eang o driniaethau endosgopi yn cynyddu i 130 miliwn erbyn 2026, wedi'u hysgogi gan ffactorau fel poblogaeth sy'n heneiddio ynghyd â nifer cynyddol o dechnegau llawfeddygol y gellir eu perfformio bellach trwy endosgopi. Mae canllawiau newydd sy’n argymell mwy o sgrinio cynnar ar gyfer clefydau fel canser y colon a’r rhefr (a fydd yn dechrau yn 45 oed yn hytrach na 50 oed) hefyd wedi dod ar adeg pan fo effeithiau’r pandemig yn dal i gael eu teimlo ar ffurf ôl-groniad sylweddol o gleifion yn aros am ofal endosgopi.
O'r 70 miliwn o driniaethau endosgopi a gwblhawyd bob blwyddyn ar hyn o bryd, mae 98% yn cael eu cyflawni â dyfeisiau y gellir eu hail ddefnyddio y mae angen eu diheintio a'u hail brosesu ar ôl pob defnydd, sy'n gostus ac yn lleihau capasiti ar gyfer trin cleifion, yn ogystal â pheri risg o groes halogi. Nod IQ Endoscopes yw ychwanegu gallu a hyblygrwydd y mae angen mawr amdano i helpu'r system gofal iechyd i fodloni’r galw o du cleifion.
Dywedodd Matt Ginn, Prif Weithredwr IQ Endoscopes: “Mae cyrff rheoleiddio fel yr FDA yn annog endosgopau untro yn gynyddol fel ffordd o wella diogelwch cleifion a sicrhau bod clefydau GI yn cael eu canfod yn gynnar. Mae endosgopau untro nid yn unig yn dileu pob bygythiad o groes halogi rhwng triniaethau, ond hefyd yn cynyddu trwybwn cleifion ac yn caniatáu mwy o fynediad at driniaeth ar raddfa fyd-eang.”
“Bydd y cymorth ariannol diweddaraf hwn yn ein galluogi i ddod â’n technoleg aflonyddgar i’r farchnad, gan olygu ei fod ar gael i gleifion sy’n cael triniaethau a gweithdrefnau hanfodol cyn gynted â phosibl. At hynny, gallwn barhau i ehangu ein sefydliad yn Ne Cymru a sicrhau ein bod yn cynyddu graddfa’r sefydliad yn unol â chynlluniau masnacheiddio.”
Dywedodd Tim Rea, buddsoddwr yn BGF : “Roedd hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi busnes dyfeisiau meddygol cyfnod cynnar gyda thechnoleg wirioneddol arloesol sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar faes sydd o dan straen yn y system gofal iechyd.
“Mae’r tîm yn IQ Endoscopes yn hynod ymroddedig i wella canlyniadau i gleifion ac i ddarparwyr gofal iechyd ar hyd a lled y byd. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi IQ Endoscopes i gwblhau ei gerrig milltir datblygiadol sy’n weddill yn erbyn map clir tuag at ei gam nesaf o dwf.”
Meddai Dr. Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: Mae Matt Ginn a'r tîm yn IQ Endoscopes wedi gwneud cynnydd trawiadol. Fel gwyddonydd deunyddiau PhD, mae ansawdd y cynhyrchion y mae'r tîm wedi'u datblygu wedi gwneud argraff arbennig arnaf.
“Fel buddsoddwr cychwynnol yn IQ Endoscopes, rydym yn falch iawn o weld y cynnydd y maent wedi'i wneud, ac o fod wedi gwneud ail gyd-fuddsoddiad ecwiti technoleg feddygol gyda'r tîm mentrau yn BGF, gan gynyddu ein rhan yn y cwmni cyffrous hwn.