Just Play Golf ym Mhenrhys yn ennyn cefnogaeth y gymuned ar ôl cael benthyciad gwerth £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Jessica-White
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
just play golf

Mae Just Play Golf wedi cael benthyciad micro gwerth £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn ei helpu i brynu a datblygu maes ymarfer golff ym Mhenrhys, Rhondda Cynon Taf. 

Syniad Matthew Phythian yw Just Play Golf, a’i fwriad yw gwneud y maes ymarfer golff newydd yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned, a fydd yn cynnig gwersi a hyfforddiant un-i-un neu mewn grŵp i bobl sy’n byw yn yr ardal. Cafodd Matthew ei gymhwyster PGA ei hun drwy fenter gymdeithasol oedd yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant mewn amryw o chwaraeon mewn cymunedau difreintiedig.

“I mi, mae chwaraeon – a golff yn enwedig – yn ffordd wych o ymgysylltu â phobl eraill a dysgu sgiliau newydd. Roeddwn i eisiau i bobl eraill yn fy nghymuned gael yr un cyfleoedd i gael cymwysterau â'r rhai a gefais i, yn ogystal â chyfle i fwynhau manteision y gamp o ran iechyd a chymdeithasu.”

Mae gan Matthew lawer o brofiad o weithio gyda golffwyr a’u hyfforddi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn hyfforddi golffwyr ifanc mewn nifer o glybiau ledled Cymru. Pan gododd cyfle i brynu hen faes ymarfer golff a’i adfywio yn ei dref enedigol, Penrhys, bachodd ar y cyfle. Agorwyd y maes ychydig cyn y Nadolig.

“Roeddwn i eisiau creu rhywle lle gallai golffwyr, a’r rheini mae golff yn gwbl newydd iddyn nhw, hyfforddi mewn amgylchedd heb gael eu beirniadu. Rydw i eisiau rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod ei gilydd a datblygu cymuned chwaraeon, yn ogystal â helpu unigolion talentog i chwarae’n broffesiynol os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Rydw i’n meddwl y gallwn ni gyflawni hynny, diolch i’r cymorth gan Jess a'r tîm yn y Banc Datblygu. Rydyn ni eisoes wedi cael ymateb gwych gan gymuned Penrhys a Chwm Rhondda, gydag aelodau newydd yn ymuno bob dydd ers i ni agor.

Jessica White, y gweithredwr buddsoddi, oedd yn gyfrifol am drefnu’r benthyciad micro gwerth £50,000 ar gyfer Matthew. Mae Jess yn gweithio gyda busnesau yn ne-ddwyrain Cymru sy’n chwilio am fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000.

“Wrth adolygu cais Matthew, cefais fy nharo gan yr effaith gadarnhaol roedd Just Play Golf yn dymuno ei chael ar Benrhys a chymuned ehangach y Cymoedd, yn ogystal â phrofiad amlwg Matthew a’i frwdfrydedd dros y prosiect,” meddai Jess. “Mae Matthew wedi rhoi bywyd newydd i’r hen faes golff ac mae’r newid yn rhyfeddol. Mae ganddo gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y cwmni, ond mae ganddo’r wybodaeth a’r dycnwch i wneud i’r rhain ddigwydd. Mae’n fusnes newydd sydd â chyfleoedd gwych i dyfu, a fydd yn rhoi budd uniongyrchol i’r gymuned. Ein cenhadaeth yn y Banc Datblygu yw helpu busnesau i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Nghymru. Gweledigaeth Matthew yw’r math o beth rydyn ni yma i’w gefnogi.”