Larynx Entertainment yn rhoi llwyfan i hip-hop yng Nghymru

Anna-Bowen
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
larynx entertainment

Mae cwmni cerddoriaeth Larynx Entertainment yn dod a mwy o syniadau creadigol artistiaid hip-hop o Gymru yn fyw wedi iddynt gael micro benthyciad cychwynnol o £3,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae'r cwmni, sydd wedi'i leoli yn Hwb Menter Wrecsam, yn teithio ar hyd a lled y wlad yn chwilio am y doniau gorau mewn hip-hop Cymraeg i arddangos eu deunydd trwy sain, delweddau a cherddoriaeth fyw.

Dechreuodd Larynx Entertainment fel cyfuniad o artistiaid hip-hop yng Ngogledd Cymru o'r enw The Larynx, yn perfformio mewn gwyliau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ar hyd a lled y DU. Gan sylweddoli fod bwlch yn y farchnad yng Nghymru i gefnogi doniau newydd yn y ‘genre’ hwnnw, ym mis Rhagfyr 2018 fe wnaeth y cyd-gyfarwyddwyr Pete Rogers a David Acton, gyda chymorth y Cyfarwyddwr Creadigol Danny Edwards a'r Ymgynghorydd Tîm Humphreys-Jones, ail-weithio eu model busnes i fod yn llwyfan aml gyfrwng ar gyfer artistiaid eraill.

Mae'r cwmni cerddoriaeth yn darparu gwasanaethau cynhyrchu fideo, yn sefydlu arddangosfeydd byw, yn hyrwyddo artistiaid ac yn rhedeg cynlluniau datblygu doniau trwy raglenni addysgol.

Mae'r micro fenthyciad gan y banc datblygu yn golygu y bydd Larynx Entertainment bellach yn gallu prynu mwy o offer, bydd yn help tuag at gostau cyflenwyr ac yn caniatáu iddynt gynyddu eu cyllideb marchnata.

Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr, Pete Rogers: “Nid yw hip-hop yn genre sy'n cael ei gysylltu hefo Cymru fel arfer. Mae digon o artistiaid dawnus yma, ond yn wahanol i ddinasoedd mwy yn y DU, nid yw'r adnoddau ar gael iddynt. Rydym eisiau helpu doniau newydd i greu record, marchnata eu cerddoriaeth a ffilmio fideo yma yng Nghymru i rannu eu cerddoriaeth.”

Y llynedd, fe wnaeth hip-hop gipio'r goron gan roc fel y genre gerddoriaeth fwyaf poblogaidd yn gyffredinol, a dywed Pete fod hyn eisoes yn cael effaith; “Mae'r diddordeb cynyddol mewn genres fel hip-hop a ‘grime’ yn bendant yn hidlo i lefel leol ac rydym yn awyddus i Larynx allu manteisio ar hynny. Yn y dyfodol rydym am edrych i mewn i gynhyrchu nwyddau, rheoli artistiaid yn ogystal â dechrau gweithdai addysgol ar strwythurau hip-hop fel y gallwn ddysgu plant am y tebygrwydd rhwng barddoniaeth a hip-hop.

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig micro fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 er mwyn helpu busnesau i ddechrau arni lle na fyddai banc yn gallu darparu cymorth, rhywbeth a oedd yn ddefnyddiol wrth sefydlu eu model busnes newydd meddai Pete; “Roeddem yn gwybod na fyddem yn gallu mynd at fanc traddodiadol gyda'n syniad ni, felly wnaethom siarad â'r banc datblygu a oedd yn meddwl yn agored ac yn hyblyg pan nad oedd llwybrau a benthyciadau eraill yn agored.

“Roedd cael y cynrychiolydd o'r banc datblygu yn lleol yn Hwb Menter Wrecsam, lle gallem alw heibio i siarad am ein cais wyneb yn wyneb yn hynod o ddefnyddiol. Mae'r micro fenthyciad wedi rhoi hygrededd gwirioneddol i ni, sy'n brin yn y celfyddydau.”

Dywedodd Anna Bowen, Swyddog Buddsoddi gyda’r tîm micro fenthyciadau: “Rydym yn awyddus i gefnogi busnesau sydd am wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol a rhoi Cymru ar y map, waeth beth yw maint y benthyciad.

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb y mae ein cwsmeriaid yn ei werthfawrogi. Gyda phresenoldeb rheolaidd yn Hwb Menter Wrecsam, mae'r banc datblygu wedi creu rhwydwaith gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Busnes Cymru ac ymgynghorwyr busnes eraill, gan roi llwyfan i berchnogion busnesau lleol fynd o flaen y bobl iawn.