Ledwood i harneisio pŵer yr economi werdd

Nick-Stork
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Ledwood

Banc Datblygu Cymru yn cadarnhau buddsoddiad saith ffigur sylweddol wrth i Ledwood baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd yn yr economi werdd

Bydd buddsoddiad saith ffigur sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru yn Ledwood Engineering yn Noc Penfro yn helpu’r cwmni peirianneg 40 oed i drosoli cyfleoedd newydd yn y sector ynni adnewyddadwy a’r economi werdd ddatblygol.

Wedi’i sefydlu ym 1983, mae’r busnes sy’n eiddo preifat yn un o gyflogwyr mwyaf De-orllewin Cymru ac mae’n darparu gwasanaethau peirianneg, saernïo ac adeiladu arbenigol i gwmnïau ynni, cynhyrchu a phrosesu mwyaf blaenllaw’r Byd. Ymhlith yr enillion contract diweddar mae contract gwerth £50 miliwn gyda GE Steam Power yng ngwaith pŵer niwclear Hinkley Point C ynghyd â Bylor, SABIC, wood, Phillips 66, Flogas, Spirit Energy a’r Prax Group.

Gyda lleoliad 10 erw (4 hectar) ar lan y dociau yn Noc Penfro, mae Ledwood yn elwa o gael 150 metr o ymylon y cei gyda dyfnder dŵr 11 metr sy’n galluogi’r cwmni i gyflenwi offer a chyfarpar mawr ledled y byd trwy gyfrwng y môr. Mae arbenigedd yn cynnwys peirianneg, gwneuthuriad modiwlau, dur adeileddol a phibellau, rheoli prosiectau, adeiladu a gosod.

Dywedodd Nick Revell, Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood: “Rydym yn falch o’n hanes o weithio i rai o gynhyrchwyr ynni a busnesau diwydiannol mwyaf ac uchaf eu proffil y byd.

“Mae ein tîm yn arbenigo mewn ymdrin â phrosiectau ar raddfa fawr ar y tir ac oddi ar y lan felly rydym mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ein profiad yn y sector ynni adnewyddadwy, yn enwedig gan fod cymaint o’n sgiliau presennol yn drosglwyddadwy.

Mae'r farchnad ynni adnewyddadwy yn datblygu'n gyflym gan fod llu o dechnolegau newydd yn dod i'r amlwg yn cael eu defnyddio i echdynnu ynni. Mae ynni gwynt a thonnau, prosiectau llanw, hydrogen ac ynni solar i gyd yn cael eu mabwysiadu ac mae prosiectau mwy fyth yn cael eu datblygu, mewn ymgais i sicrhau bod ynni adnewyddadwy a dyfir gartref yn darparu cyfran fwy o'n hanghenion ynni.

“Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu dyfodol cynaliadwy hirdymor i’n busnes ac mae hynny’n golygu parhau i gyflawni’r gwaith o ansawdd uchel yr ydym yn adnabyddus amdano tra hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd newydd yn yr economi werdd. Rydym yn un o lawer o fusnesau cynhenid Cymreig a ddylai gael y cyfle i wneud cais am waith newydd a dod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer prosiectau gwynt  mawr oddi ar y lan yn y Môr Celtaidd. Dyna beth fydd yn creu gwerth hirdymor i’n heconomi a’n cymunedau lleol felly daw’r buddsoddiad hwn gan y Banc Datblygu ar adeg hynod bwysig i ni.”

Dywedodd Nick Stork sy’n Rheolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru: “I ni, mae’r cyfan yn ymwneud â rhoi potensial Cymru wrth galon ein proses o wneud penderfyniadau. Fel busnes sefydledig a chyflogwr mawr yn yr ardal, yn sicr mae gan Ledwood y wybodaeth, y gallu a’r cymhwysedd i fanteisio ar gyfleoedd yn y sector ynni adnewyddadwy. Fel cwsmer hirdymor, bydd ein buddsoddiad yn helpu Ledwood i fanteisio ar gyfleoedd newydd a fydd o fudd i’n heconomi ehangach.”

Daeth y buddsoddiad yn Ledwood o Gronfa Busnes Cymru gwerth £204 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael gyda thelerau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.