Lefelau uchel o gyd-fuddsoddi wrth i’r Banc Datblygu gyhoeddi canlyniadau cryf ar gyfer 2021/22

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
COVID-19
Ecwiti
Twf
Marchnata
Busnesau technoleg

Mae cynnydd yng nghyfanswm a gwerth cyffredinol y bargeinion ynghyd â lefelau uchel o gyd-fuddsoddiad mewn busnesau Cymreig wedi arwain at berfformiad cryf gan Fanc Datblygu Cymru yn 2021/22 yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi heddiw.

Gwnaethpwyd 519 o fuddsoddiadau gyda gwerth cytundeb cyfartalog o £210,276 mewn mwy na 460 o fusnesau Cymreig yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, gydag ychydig dros hanner y buddsoddiadau (51%) wedi’u dyfarnu i gwsmeriaid presennol. Cyfanswm y buddsoddiad oedd £109.1 miliwn, cynnydd o £3.6 miliwn o gymharu â busnes fel arfer yn 2020/21.

Pan gafodd ei ffurfio yn 2017, gosodwyd targed buddsoddi blynyddol o ddros £80 miliwn erbyn 2022 i'r Banc Datblygu. Cyflawnwyd y targed cychwynnol hwnnw dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019. Ers hynny mae'r Banc wedi mynd ymlaen i gofnodi buddsoddiadau ychwanegol o £100 miliwn bob blwyddyn gyda chyfanswm effaith dros y cyfnod pum mlynedd cyntaf o £1.2 biliwn gan gynnwys £400filiwn o gyd-fuddsoddiad gan y sector preifat.

Cyrhaeddodd cyd-fuddsoddiad yn 2021/22 £64.1 miliwn, sef cynnydd o £4.1 miliwn ar 2020/21 wrth i’r Banc Datblygu barhau i ganolbwyntio ar weithio gyda’r sector preifat i wneud y mwyaf o’r llif cyfalaf preifat yng Nghymru. Roedd £30.3 miliwn o'r cyd-fuddsoddiad ar gyfer mentrau technoleg.

Tyfodd sylfaen y buddsoddwyr a ddelir gan Angylion Buddsoddi Cymru i 299 a bu 92 o fuddsoddiadau angel unigol yn ystod y flwyddyn gwerth cyfanswm o £3.3 miliwn o gymharu â £2.6 miliwn yn 2020/21. Trwy cyd-fuddsoddiad, cyrhaeddodd ABC chyfanswm cwbl o £8.6m - gan gynnwys £1,65miliwn mewn ariannu cyfatebol trwy syndicadau Angel. Mae 10% o fuddsoddwyr sydd wedi cofrestru gydag ABC yn fenywod.

Gyda phortffolio cwsmeriaid o bron i 3,000 o fusnesau Cymreig, mae’r Banc Datblygu bellach yn rheoli cronfeydd gwerth cyfanswm o £1.9 biliwn gan gynnwys y gronfa am feicro fenthyciadau o £32.5 miliwn sy’n parhau i fod yn boblogaidd ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach yng Nghymru.

Roedd micro-fenthyciadau o hyd at £50,000 ar draws yr holl gronfeydd yn cyfrif am 70% o gyfanswm y buddsoddiadau a wnaed gan y Banc Datblygu yn ystod y flwyddyn, yr oedd bron i hanner ohonynt yn fenthyciadau llwybr cyflym gyda phenderfyniad benthyca wedi’i dargedu o fewn 48 awr. Dyfarnwyd 140 o fenthyciadau trac cyflym gwerth cyfanswm o £2.39 miliwn yn 2021/22 o gymharu â 93 yn 2020/21. Cynyddodd fuddsoddiadau ar gyfer busnesau newydd hefyd o £7.5 miliwn i £8.8 miliwn gyda 135 o fuddsoddiadau yn 2021/22 o gymharu â 122 yn y flwyddyn flaenorol.

Gwelodd y Banc Datblygu dwf arbennig yng Ngogledd Cymru gyda busnesau yn yr ardal yn derbyn £30.1m o gyfanswm y bargeinion, o gymharu â £25m yn y flwyddyn flaenorol. Roedd gan Dde Ddwyrain Cymru £47m a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi adrodd £32.1m. Cafodd 3,540 o swyddi eu creu neu eu diogelu yn ystod y flwyddyn ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae helpu busnesau i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddatblygu a thyfu wrth wraidd yr hyn y mae Banc Datblygu Cymru yn ei ddarparu. Mae gwella ar berfformiad y flwyddyn flaenorol i sicrhau buddsoddiadau o £109m i fusnesau Cymru, cynyddu maint a gwerth cyffredinol y bargeinion a sicrhau lefelau uchel o fuddsoddi ar y cyd yn gyflawniad gwych o fewn cyfnod economaidd hynod heriol.

“Mae’r canlyniadau hyn yn tanlinellu’r rôl hanfodol y mae’r Banc Datblygu yn ei chwarae – camu i’r bwlch pan na all busnesau sydd â chynlluniau cryf a hyfyw gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt gan ddarparwyr prif ffrwd.

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi ehangu cronfeydd hyblyg y Banc Datblygu, a fydd yn parhau i addasu a chefnogi anghenion sy’n dod i’r amlwg ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r Banc Datblygu wrth iddo barhau i gefnogi twf ac uchelgeisiau busnesau ledled Cymru.”

Dywedodd Gareth Bullock, Cadeirydd Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn cwblhau ein pum mlynedd gyntaf ar ôl cyrraedd graddfa ac ehangder y cynnig sy’n rhagori ar ein huchelgeisiau cychwynnol. Mae buddsoddiad blynyddol wedi cyrraedd bron i £110 miliwn, gyda chyfanswm effaith dros bum mlynedd yn cyrraedd £1.2 biliwn yn erbyn targed o £1 biliwn.

“Mae canlyniadau’r flwyddyn ddiwethaf yn cynrychioli perfformiad cryf gan y tîm yn ystod cyfnod o ansicrwydd parhaus gydag effaith barhaus y pandemig coronafeirws, heriau o ganlyniad i’n hymadawiad o’r UE a’r pwysau ar gyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, nid gêm rifau yn unig yw hon. Dylid mesur gwir effaith ein gwaith yn y gwahaniaeth a wnawn; gwneud y mwyaf o lif cyfalaf preifat yng Nghymru , datblygu’r ecosystem, hwyluso diwylliant mentergarol a chefnogi busnesau Cymreig i gyflawni eu llawn botensial yn unol â pholisi’r Llywodraeth. Dyna oedd ein ffocws yn 2021/22 a bydd yn parhau i fod felly wrth inni symud ymlaen â cham nesaf ein hesblygiad oherwydd pan fydd busnesau Cymru yn gryf, mae Cymru’n gryf .”

Dywedodd y Prif Weithredwr, Giles Thorley: “Mae ein cyfeiriad strategol yn parhau i esblygu er mwyn bodloni gofynion twf ac anghenion newidiol rhanddeiliaid a chwsmeriaid ledled Cymru. Mae’r canlyniadau ar gyfer 2021/22 yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad i fod yn hyblyg ac ymatebol i newid anghenion y farchnad. Rydym yn defnyddio dadansoddiad amser real o'r farchnad a gynhyrchwyd gan Deallusrwydd Economaidd Cymru i lywio'r anghenion hyn a chyfuno darpariaeth arbenigol â gwasanaeth gwerth am arian, gan sicrhau defnydd effeithlon o arian cyhoeddus.

“Mae wedi bod yn flwyddyn o ganolbwyntio ar fusnes fel arfer ac rwyf wedi fy nghalonogi ein bod wedi cyflawni’r gyllideb er gwaethaf heriau parhaus y pandemig. Rydym wedi gweithio'n galed i ddenu mwy o gyfalaf drwy ddatblygu'r ecosystem a gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr. Rydym hefyd wedi cydweithio â chydweithwyr yn Busnes Cymru i sicrhau bod taith y cwsmer yn un gydgysylltiedig. Mewn gwirionedd, cawsom 320 o atgyfeiriadau gan Busnes Cymru yn ystod y flwyddyn.

“Gwnaethom gyflenwi cyllid ar draws sectorau busnes, i bob maint busnes ac ym mhob rhanbarth o Gymru yn 2021/22 ac rydym wedi gweld pedwar ymadawiad llwyddiannus gydag elw cyfunol o £3.5 miliwn. Mae’r galw am gyllid gan y sector eiddo yn parhau i fod yn arbennig o gryf gyda buddsoddiad mewn 19 o brosiectau ledled Cymru wrth i ni gefnogi datblygwyr gyda chyllid tymor-byr hyblyg i helpu i reoli materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi a chostau cynyddol.

“Fel buddsoddwr amyneddgar, rydym yn canolbwyntio ar helpu busnesau i ddechrau a thyfu. Mae’r dull hirdymor hwn yn arbennig o bwysig yn y sector technoleg lle rydym yn darparu cyllid dilynol i’r cwmnïau hynny sydd wedi elwa ar gyllid sbarduno a chyllid ecwiti cyfnod cynnar . Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, buddsoddwyd £11.6 miliwn mewn 25 o fentrau technoleg ac rydym yn parhau i fod â diddordeb mawr gan fusnesau sy'n ceisio sicrhau buddsoddiad ecwiti.

“Yn ystod ein pum mlynedd nesaf, byddwn yn ehangu ein hystod o wasanaethau ymhellach i dargedu’r argyfwng hinsawdd a byddwn yn dod yn alluogwr ariannol pwysig i ymdrechion busnesau Cymru i leihau eu hôl troed carbon. Mae’n ymwneud â chymryd golwg hirdymor wrth i ni barhau i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu.”