Lleoliad newydd ar gyfer coffi a 'brinio' (brecwast a cinio) yn Aberteifi

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
crwst

Os ydych chi wrth eich bodd hefo bwyd da, yna mae'n rhaid i chi ymweld â Crwst yn Aberteifi.

Fe gafodd ei enwebu fel y Busnes Gwledig Newydd Gorau yng Ngwobrau Busnes Gwledig 2018, - mae Crwst yn cael ei redeg gan y cwpl lleol Catrin ac Osian Jones. Fe wnaethant sefydlu eu micro-fecws yn gwneud bara ffres, donyts, cacennau ac amrywiol gynhyrchion o grwst yn 2017 ac maent bellach wedi defnyddio benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru i agor caffi, deli a bwyty yng nghanol Aberteifi.

Maen nhw'n cyflogi 21 o bobl leol, ac mae'r tîm yn parhau â'u traddodiad o wneud amrywiaeth o gynnyrch wedi eu pobi'n ffres bob dydd, gan gynnwys eu toesenni (donyts) 'llawn go-iawn' enwog.

Dywedodd Richard Easton, o'r Banc Datblygu Cymru: "Wedi i mi fwynhau ychydig o ddanteithion blasus yn Crwst, does ryfedd fod Catrin ac Osian yn mynd o nerth i nerth. Maen nhw wedi sefydlu eu hunain yn gyflym fel un o'r bwytai sy’n gyrchfan ar gyfer y dref.

"Mae'r busnes yn perfformio'n eithriadol o dda, felly roeddem wrth ein bodd yn cael y cyfle i gefnogi eu twf gydag arian cyllido sydd wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu'r caffi mewn adeilad sydd wedi cael ei adnewyddu mewn ffordd hyfryd a darparu cyfalaf gweithio hefyd.

"Yn holl bwysig, mae Catrin ac Osian yn cynnig y gorau o gynnyrch Cymreig a lleol. Gan weithio gyda dros 40 o gyflenwyr lleol, maent yn cael eu parchu'n lleol ac maen nhw'n hyrwyddo'r gymuned leol yn weithredol. Mae hynny'n bwysig iawn i ni fel sefydliad sy'n bodoli i helpu busnesau Cymru i ffynnu."

Meddai'r Cyfarwyddwr Catrin Jones: "Heb gefnogaeth gan y Banc Datblygu Cymru, fydde‘ ni yma heddiw. Roedd y cyllid a ddarparwyd ganddynt yn ein galluogi i gymryd y cam nesaf a oedd yn hanfodol i ehangu Crwst. Buaswn yn argymell bod unrhyw fentergarwr lleol sy'n bwriadu dechrau neu dyfu busnes yn cael sgwrs gyda thîm y banc datblygu. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn wych ac mae'n bleser gweithio gyda'r tîm."