Mae'r gwaith o ail ddatblygu clwb golff hynaf Cymru bron wedi'i gwblhau gyda llety pedair seren newydd a bwyty i agor ddiwedd mis Medi.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad o £995,400 gan Fanc Datblygu Cymru a grant o £248,850 gan Croeso Cymru ochr yn ochr â chyllid preifat, mae’r buddsoddiad o £1.7 miliwn ar fin trawsnewid Clwb Golff Dinbych-y-pysgod gan greu tŷ clwb o’r radd flaenaf, pum ystafell wely math dorm ychwanegol ar gyfer grwpiau o golffwyr, llety gwestai bwtîc newydd â deg ystafell wely o'r enw 'The Dunes' a 'The Links', a bwyty cain a fydd o dan arweiniad y cogydd enwog Duncan Barham. Bydd croeso i bawb gan gynnwys y rhai nad ydynt yn aelodau.
Wedi’i benodi’n brif gontractwr, mae’r cwmni adeiladu a pheirianneg sifil WB Griffiths o Hwlffordd wedi gweithio ochr yn ochr â’r Penseiri Acanthus Holdings, Bullock Consulting a Roger Casey Associates yn ogystal â chwmnïau cyflenwi lleol fel Shoreline Interiors o Ddoc Penfro, Janey Evers Interiors, KO Carpets ac eraill i ddatblygu y safle. Cafodd Clwb Golff Dinbych-y-pysgod ei gyflwyno i'r Banc Datblygu gan Landsker Business Solutions o Hendy-gwyn ar Daf.
Wedi'i sefydlu ym 1888, mae Clwb Golff Dinbych-y-pysgod yn cael ei adnabod fel man geni golff yng Nghymru ac mae’n un o aelodau a sefydlodd Undeb Golff Cymru. Gyda 18-twll yn edrych dros y môr, mae hwn ymysg y 10 cwrs gorau yng Nghymru a'r 100 cwrs gorau yn y DU. Mae bron pob cwrs wedi'i leoli mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Dywedodd Cadeirydd Clwb Golff Dinbych-y-pysgod, Nick Gregg: “Mae hwn yn fuddsoddiad mawr i Sir Benfro. Bydd yn trawsnewid Clwb Golff Dinbych-y-pysgod; mi fydd o fudd i selogion golff a'r gymuned leol fel ei gilydd gyda thŷ clwb gwell, llety o ansawdd uchel i westeion y mae mawr ei angen a bwyty gwych a fydd ar agor i'r rhai nad ydynt yn aelodau.
“Mae’r datblygiad yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos Dinbych-y-pysgod a’r cyffiniau tra bydd pobl leol ac ymwelwyr yn gallu mwynhau profiad bwyta unigryw sy’n dathlu diwylliant a chynnyrch Sir Benfro. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl leol â phosibl yn elwa trwy gyfrwng y 23 o swyddi newydd a’r gwaith cadwyn gyflenwi ynghyd â'r cyfle i ddod draw i fwynhau'r cyfleusterau newydd. I ni, mae hyn oll yn ymwneud â Chymru a dyna pam yr oeddem am i’r prosiect gael ei ariannu gan arian Cymru. Mae’r cyfuniad o’r benthyciad gan y Banc Datblygu a’r grant gan Croeso Cymru wedi sicrhau bod hyn yn digwydd i Glwb Golff Dinbych-y-pysgod ac ar gyfer Sir Benfro yn gyffredinol.”
Mae Richard Easton yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae Clwb Golff Dinbych-y-pysgod yn gaffaeliad gwirioneddol i Sir Benfro, gan ddenu twristiaid a phobl leol sydd wrth eu boddau gyda golffio. Bydd y buddsoddiad yn y cyfleusterau nawr yn agor y clwb i bobl nad ydyn nhw'n aelodau sydd eisiau mwynhau'r clwb gwell, y llety i westeion a'r bwyty. Rydym yn falch ein bod wedi gallu strwythuro pecyn ariannu sy’n nodi dechrau dyfodol newydd cyffrous a chynaliadwy i glwb golff hynaf Cymru sydd wrth galon y gymuned leol.”
Daeth y benthyciad o £995,400 gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru. Wedi’i hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae’r gronfa £50 miliwn yn cynnig benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig, sy’n sefyll allan ac sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gall prosiectau gynnwys cynnyrch arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr sy’n nodweddiadol Gymreig, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, lleoedd anarferol i aros ac atyniadau blaenllaw.